Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bwriadu cael tacsi adref ar ôl eich parti Nadolig? Dylech chi ddarllen hwn!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Bwriadu cael tacsi adref ar ôl eich parti Nadolig? Dylech chi ddarllen hwn!
Pobl a lleY cyngor

Bwriadu cael tacsi adref ar ôl eich parti Nadolig? Dylech chi ddarllen hwn!

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 13, 2018 8:50 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Bwriadu cael tacsi adref ar ôl eich parti Nadolig? Dylech chi ddarllen hwn!
RHANNU
Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy

Wrth i’r Nadolig agosáu a phawb yn edrych ymlaen at y partïon Nadolig, rydyn ni’n atgoffa pawb bod angen gwirio bod unrhyw dacsi yr ewch iddo wedi’i drwyddedu’n iawn.

Dylai pob cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni arddangos platiau trwydded gwyn a phiws y tu allan i’r cerbydau.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Bydd gan gerbydau hurio preifat arwyddion melyn yn y ffenestri cefn hefyd.

Dylai fod gan yr holl yrwyr fathodyn ID yn dangos eu henw, llun ohonynt, rhif trwydded a dyddiad terfyn. Os na allwch weld y bathodyn, gofynnwch i’w weld cyn dechrau.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae mor hawdd neidio i mewn i dacsi sy’n aros wrth adael clwb nos neu leoliad tebyg, gan ddisgwyl cyrraedd adre’n saff. Mae’r Nadolig yn amser pan all rhai pobl ddigydwybod weld cyfle i wneud ychydig o arian drwy esgus bod yn yrrwr tacsi cyfreithlon. Ar yr achlysuron hyn, ni fydd y cerbydau wedi’u trwyddedu nac yn cynnwys yswiriant digonol, ac ni fyddant wedi mynd drwy’r profion angenrheidiol ar gyfer cludo’r cyhoedd. Mae’n werth gwirio cyn mynd i mewn ac os na allwch weld bathodyn ID y gyrrwr, gofynnwch i’w weld.”

Yn ystod mis Rhagfyr, bydd Swyddogion Trwyddedu yn gweithio gyda Heddlu Wrecsam i wirio tacsis er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn gyfreithiol ac yn addas i’r pwrpas.

Mae Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid yn hyrwyddo ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, er mwyn annog pobl ifanc i edrych ar ôl eu hunain drwy yfed llai cyn mynd allan… yn ogystal â chadw cyfrif o faint maen nhw’n yfed unwaith maen nhw’n cyrraedd clybiau a thafarndai Wrecsam.

Mae’n wir, wrth yfed llai – a gwybod lle mae’ch terfynau – fe allwch chi gael noson allan lawer iawn gwell.

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, cliciwch yma.

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i ddarganfod y gorffennol yn Tŷ Pawb y Nadolig hwn Dewch i ddarganfod y gorffennol yn Tŷ Pawb y Nadolig hwn
Erthygl nesaf christmas turkey Osgoi gwenwyn bwyd diangen y Nadolig hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English