Anogir mentrau chwaraeon cymunedol ar draws Wrecsam i fanteisio ar gronfa a allai eu cynorthwyo i gyflawni eu rolau cyn y dyddiad cau am geisiadau.
Mae Chwaraeon Cymru, sy’n annog a chefnogi cyfranogiad chwaraeon ledled Cymru, yn cynnig hyd at £1500 ar gyfer grwpiau drwy’r Gist Gymunedol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Mae ceisiadau ar gyfer y rownd olaf o gyllid ar agor tan ddydd Mercher, 16 Ionawr ac fe fydd panel yn cyfarfod i drafod y ceisiadau ddydd Mercher, 30 Ionawr.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Mae ‘na nifer o grwpiau chwaraeon ac athletau da sy’n gwneud gwaith arbennig yn eu cymunedau.
“Mae Cist Gymunedol yno i helpu’r clybiau hynny gael yr adnoddau ychwanegol maent eu hangen. Dylai’r rhai sydd yn cymryd rhan wneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn colli allan.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Louise Brady, Rheolwr Cynorthwyol Datblygu Chwaraeon yng Nghyngor Wrecsam, ar 01978 297359 neu drwy e-bost at louise.brady@wrexham.gov.uk.
Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar ein gwefan.
I ymgeisio ar-lein, ymwelwch â gwefan Chwaraeon Cymru.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]