Ydych chi’n methu’n lân â meddwl am rywbeth i’w roi mewn hosan Nadolig? Dyma’r ateb perffaith i chi!
Mae calendr Rhyfeddodau Wrecsam yn llawn dop o ffotograffau trawiadol o bensaernïaeth hyfryd a llecynnau prydferth yn y fwrdeistref sirol a dynnwyd trwy gydol y flwyddyn gan ffotograffwyr amatur lleol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Mae Calendr Rhyfeddodau Wrecsam 2019 wedi’i argraffu ac ar gael i’w brynu yn yn lleoliadau canlynol:
• Y Ganolfan Groeso
• Llyfrgell Wrecsam
• Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
• Caffi ‘Bank Street Social’
• Tŷ Pawb
Dim ond £5 yw’r calendr a bydd yr holl elw’n mynd at Gronfa Elusennol y Maer.
Brysiwch, da chi, dim ond 500 sydd wedi’u hargraffu ac os byddan nhw hanner mor boblogaidd â’r llynedd, fe awn nhw i gyd mewn dim o dro!
Meddai’r Cynghorydd Andy Williams, Maer Wrecsam: “Mae’r calendr yn dipyn o fargen ac mae’n dangos rhai o’r golygfeydd a’r adeiladau godidog sydd gennym ni yma yn Wrecsam. Rydyn ni wir yn byw mewn lle bendigedig, ac mae’r calendr yn ffordd dda o atgoffa pawb o hynny. Rwy’n ffyddiog y byddwch chi’n cefnogi fy elusennau eleni drwy brynu copi o Galendr Rhyfeddodau Wrecsam 2019.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]