Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynlluniau am fwy o niferoedd mewn ysgol gynradd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cynlluniau am fwy o niferoedd mewn ysgol gynradd
Busnes ac addysgPobl a lle

Cynlluniau am fwy o niferoedd mewn ysgol gynradd

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 2, 2019 3:19 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Cynlluniau am fwy o niferoedd mewn ysgol gynradd
RHANNU

Bydd y Bwrdd Gweithredol yn trafod cynlluniau i gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgol gynradd bentref.

Yn yr hydref, bu i ni gynnal ymgynghoriad yn holi a ddylem gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Bro Alun, sy’n ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Ngwersyllt.

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion a gawsom yn ystod yr ymgynghoriad yn gefnogol iawn i’r cynnig ac, felly, rydyn ni bellach yn edrych ar y camau nesaf.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Ynghyd â’r ymatebion cadarnhaol a gawsom yn ystod yr ymgynghoriad, rydyn ni hefyd yn gwybod bod disgwyl i alw am leoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam dyfu yn y blynyddoedd nesaf.

Ddydd Mawrth, 8 Ionawr, bydd ein Bwrdd Gweithredol yn ystyried cynigion i gynyddu nifer y lleoedd yn barhaol yn Ysgol Bro Alun.

Byddai’r cynlluniau’n edrych ar greu lle i 105 o ddisgyblion ychwanegol – 15 i bob grŵp blwyddyn, a fyddai’n cynyddu uchafswm disgyblion yr ysgol i 315 (a 45 o leoedd meithrin).

Byddai’r flwyddyn gyntaf o gynnydd yn cychwyn ym mis Medi 2019 yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn gyda 15 o leoedd ychwanegol i ddisgyblion ym mhob un. Byddai’r cynnydd wedi’i gyfyngu i’r grwpiau hynny’n unig.

Wedyn, byddai’r nifer derbyn yn cynyddu 15 lle bob blwyddyn tan i’r ysgol gyrraedd ei huchafswm newydd o 315.

Bydd aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn trafod y cynlluniau ar 8 Ionawr – gallwch wylio’r gwe-ddarllediad yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Y Bwrdd Gweithredol i ystyried dyfodol safle Erlas Y Bwrdd Gweithredol i ystyried dyfodol safle Erlas
Erthygl nesaf Cadw’n heini gyda’ch plant yn Llyfrgell Wrecsam! Cadw’n heini gyda’ch plant yn Llyfrgell Wrecsam!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English