Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cymeradwyo Estyniad Bro Alun a Strategaeth Bêl-droed
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cymeradwyo Estyniad Bro Alun a Strategaeth Bêl-droed
Busnes ac addysgY cyngor

Cymeradwyo Estyniad Bro Alun a Strategaeth Bêl-droed

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 8, 2019 1:08 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ysgol Bro Alun
RHANNU

Yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol heddiw, cytunodd aelodau i gyhoeddi Hysbysiad Statudol ynghylch cynyddu’r nifer o ddisgyblion a fydd yn gallu mynychu Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt.

Y bwriad ydi adeiladu estyniad i’r adeilad presennol i greu lle ar gyfer 105 disgybl arall (15 disgybl ym mhob grŵp blwyddyn). Byddai’r flwyddyn gyntaf o gynnydd ym mis Medi 2019 ar gyfer y dosbarth Meithrin (15 o leoedd ychwanegol) a’r dosbarth Derbyn (15 o leoedd ychwanegol), byddai’r cynnydd mewn capasiti yn cael ei gyfyngu i’r grwpiau blwyddyn hynny’n unig.

Bydd y nifer derbyn yn cynyddu 15 lle yn flynyddol (o 30 i 45) ar gyfer llefydd yn y dosbarth meithrin a dosbarth derbyn o 2019 ymlaen, a bydd y dosbarthiadau hyn yn symud drwy’r ysgol nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm capasiti sef 315 (a 45 o leoedd yn y feithrinfa).

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Os na fydd unrhyw broblemau, fe ddylai’r gwaith ddechrau ar y safle yn yr haf.

Roedd pêl-droed yn uchel ar yr agenda hefyd, a chytunodd aelodau i symud ymlaen â chynlluniau i greu canolfannau peilot ar gyfer pêl-droed mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (Ymddiriedolaeth) a Chymdeithas Bêl-droed Gogledd Ddwyrain Cymru.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys

  • Gwella porth Ffordd yr Wyddgrug sy’n arwain i mewn i’r dref, gan gynnwys yr orsaf drenau a’r Cae Ras;
  • Canolfan datblygu pêl-droed newydd ym Mharc y Glowyr;
  • Cynlluniau – trafodwyd yn ddiweddar gan Gynulliad Cymru – i ddatblygu Amgueddfa Pêl-droed Cenedlaethol yn Wrecsam;
  • Gwaith gan y Cyngor a Chlwb Pêl-droed Wrecsam i sicrhau lleoliad parhaol ar gyfer cae hyfforddi

Os ceir cymeradwyaeth gan y Bwrdd, byddai’r prosiect peilot – wedi’i gefnogi gan £50,000 gan Lywodraeth Cymru – yn rhedeg am flwyddyn, ac wedyn cael ei asesu i weld pa mor llwyddiannus oedd model y ganolfan.

Prif nod y bartneriaeth fyddai helpu clybiau i fod yn fwy hunangynhaliol, gwella cyfleusterau cymunedol a rhoi cyfle a chyfleusterau i bobl ifanc ac oedolion sydd eu hangen arnynt i wella eu hiechyd.

Gallwch ddarllen mwy am y cynlluniau ar gyfer pêl-droed yn y fwrdeistref sirol yma:

Yn yr un cyfarfod, pleidleisiodd yr aelodau i argymell cyllideb 2019/20 i’r Cyngor gyda gwariant net o £236,853k yn arwain at gynnydd yn nhreth y cyngor band D o 5.5% – £1,153.13. Bydd y Cyngor yn cwrdd ar 20 Chwefror i osod y gyllideb derfynol.

Trafodwyd dyfodol adeilad Erlas hefyd a chytunodd aelodau i fwrw ymlaen gydag astudiaeth ecolegol ar y safle ac i symud ymlaen gyda chynlluniau i ddymchwel y tŷ a’r bythynnod er mwyn gallu defnyddio’r safle yn y dyfodol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Sut mae’r cyngor yn gweithio: grwpiau gwleidyddol Sut mae’r cyngor yn gweithio: grwpiau gwleidyddol
Erthygl nesaf Wrexham Council News Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam – beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English