Faint ydych chi’n ei wybod am gyfansoddiad gwleidyddol Cyngor Wrecsam?

Os mai ‘dim llawer’ yw eich ateb yna mae’n debyg eich bod o fewn y mwyafrif.

Ac efallai nad ydych yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o’ch cynghorwyr lleol yn perthyn i grŵp gwleidyddol.

Pa grwpiau gwleidyddol sydd yna?

Ar hyn o bryd mae chwe grŵp gwleidyddol gwahanol.

Mae rhai enwau y byddwch yn gyfarwydd â nhw – Llafur, Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Er hynny mae aelodau Annibynnol, Aelodau Annibynnol Wrecsam a chynghorwyr amhleidiol sydd ddim yn perthyn i unrhyw grŵp.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Faint o aelodau sydd yn perthyn i bob grŵp gwleidyddol?

Annibynnol – 16

Llafur – 12

Ceidwadol – 8

Aelodau Annibynnol Wrecsam – 8

Plaid Cymru – 3

Democratiaid Rhyddfrydol – 2

Mae hefyd tri o Aelodau Amhleidiol ar y Cyngor.

Sut ydw i’n darganfod pa grŵp y mae cynghorwyr yn perthyn iddyn nhw?

Gallwch weld yr holl gynghorwyr lleol yn ôl eu grwpiau gwleidyddol ar ein gwefan.

Tydi’r blaid y mae cynghorwyr yn sefyll drosti mewn etholiad ddim bob tro’n cyd-fynd â’r grŵp gwleidyddol y mae’n nhw’n aelod ohono – weithiau y byddant yn sefyll dros un blaid, ond yn ymuno â grŵp arall ar ôl cael eu hethol.

Unwaith i bob cynghorydd gael eu hethol ar gyfer eu ward (ardal) o Wrecsam, mae’n rhaid iddyn nhw gyflwyno rhybudd ffurfiol os ydynt yn penderfynu sefydlu grŵp gwleidyddol gyda chynghorwyr eraill.

Os ydych eisiau gwybod mwy am gynghorwyr lleol a sut y maen nhw’n cael eu hethol, gallwch ddarllen ein erthygl flaenorol yma.

Pa grŵp sydd ‘mewn pŵer’?

Mae’r system yn gweithio mewn ffordd debyg i’r hyn sy’n digwydd ar lefel cenedlaethol – y grŵp gyda’r nifer fwyaf o aelodau a bleidleisiwyd i mewn yw’r grŵp mwyafrifol.

Er hynny, yn debyg rywsut i’r llywodraeth genedlaethol, mae clymblaid yng Nghyngor Wrecsam ar hyn o bryd. Mae’r glymblaid rhwng y Ceidwadwyr, aelodau Annibynnol ac aelodau Annibynnol Wrecsam.

Beth mae’r grŵp mwyafrifol yn ei wneud?

Mae’r grŵp mwyafrifol (neu grwpiau clymblaid) yn dewis 10 aelodau i fod ar y Bwrdd Gweithredol – yn y Cyfarfod Cyngor Blynyddol ym mis Mai ar ôl cynnal yr etholiad.

Mae sawl pwyllgor yn gwneud penderfyniadau yn y cyngor, ond y ‘Bwrdd Gweithredol’ yw’r un sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r penderfyniadau allweddol ynghylch blaenoriaethau a gwasanaethau’r cyngor.

Rŵan eich bod yn gwybod ychydig mwy am sut y mae’r cyngor yn gweithio, gallwch hefyd ddarllen am wahanol bwyllgorau’r cyngor yn ein erthygl flaenorol yma, os oes gennych ddiddordeb.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

YMGEISIWCH NAWR