Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun bywyd nos Wrecsam yn ennill gwobr genedlaethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cynllun bywyd nos Wrecsam yn ennill gwobr genedlaethol
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Cynllun bywyd nos Wrecsam yn ennill gwobr genedlaethol

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 7, 2019 1:15 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Cynllun bywyd nos Wrecsam yn ennill gwobr genedlaethol
RHANNU

Mae cynllun bywyd nos Wrecsam, a ddyluniwyd i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel – a dathlu rhagoriaeth yn y diwydiant – wedi ennill gwobr genedlaethol.

Cafodd Braf Bob Nos Wrecsam ei enwi fel cynllun mwyaf arloesol 2018 yng Ngwobrau Cenedlaethol Braf Bob Nos, a gynhaliwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi yn gynharach yr wythnos hon.

Felly beth yw’r cynllun?

Mae Braf Bob Nos yn gynllun cenedlaethol a gefnogir gan y Swyddfa Gartref a’r diwydiant diodydd.

Ei brif nod yw hyrwyddo rheolaeth gyfrifol o glybiau nos, tafarndai a safleoedd alcohol trwyddedig eraill – er mwyn helpu i gadw trefi a dinasoedd yn ddiogel ar gyfer staff a phobl sy’n mwynhau noson allan.

Mae wedi cael ei fabwysiadu gan 75 o drefi a dinasoedd ar draws y DU, ac yn cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill erbyn hyn.

Y nod yw lleihau trosedd ac anrhefn sy’n gysylltiedig ag alcohol drwy adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng masnachwyr trwyddedig, yr heddlu a chynghorau lleol – fel y gallent rannu gwybodaeth, syniadau ac arferion da.

SIARADWR CYMRAEG? LLENWI EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN!

Rhaid i fusnesau fodloni safonau er mwyn cael eu cydnabod gan y cynllun, gan gynnwys ‘archwiliad manwl o dros 120 o feini prawf – yn cynnwys popeth o reolaeth gyfrifol i ofal cwsmeriaid.

Yn Wrecsam rydym yn dathlu cyraeddiadau safleoedd lleol mewn noson wobrwyo bob hydref.

Beth sydd mor arloesol am gynllun Wrecsam?

Mae gwobr y ‘Cynllun Mwyaf Arloesol’ yn cael ei roi i’r prosiect sydd â’r dull fwyaf creadigol o wneud gwahaniaeth yn eu hardal leol.

Roedd chwe chynllun arall ar y rhestr fer yng Nghymru a Lloegr, a Wrecsam ddaeth i’r brig oherwydd yr ystod eang o fentrau i wella diogelwch – gan gynnwys hyfforddiant ar ymwybyddiaeth ar gyfer deiliaid trwyddedau a staff ar y drysau ar ddod o hyd i gwsmeriaid a allai fod yn agored i niwed a’u helpu, a dulliau gwrthderfysgaeth.

Rhoddodd y beirniaid ganmoliaeth benodol i Wrecsam am y bartneriaeth gryf rhwng y Cyngor, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, deiliaid trwyddedau a staff diogelwch – pawb yn cydweithio i sicrhau diogelwch gydag ychydig iawn o adnoddau.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard; “Braf iawn yw gweld o’r 75 tref a dinas yn y DU sydd wedi mabwysiadu’r cynllun Braf Bob Nos, bod tref Wrecsam wedi’i chydnabod fel y dref  â’r “Cynllun Mwyaf Arloesol Braf Bob Nos 2018.

“Mae hyn yn newyddion gwych i ni. Mae’n tynnu sylw at y gwaith caled, yr ymroddiad a’r gefnogaeth ar draws ein heconomi min nos gan bartneriaid i sicrhau bod Wrecsam yn lle diogel i bobl sydd eisiau mwynhau noson allan.  Diolch yn fawr iawn i bob aelod o staff sydd yn rhan o’r cynllun.”

Dywedodd Prif Arolygydd Mark Williams:  “ Rwyf yn hynod falch o glywed bod Cynllun Braf Bob Nos Wrecsam wedi cael cydnabyddiaeth am ei  ddull arloesol o weithio. Mae’r bartneriaeth rhwng yr awdurdodau trwyddedu, y gwasanaethau brys a’r trwyddedwyr yn Wrecsam wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd. Mae canol tref diogel a chroesawgar o fudd i bawb a byddem yn parhau i gydweithio i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion.”

Os ydych chi’n rhedeg safle trwyddedig ac eisiau gwybod mwy am y cynllun Braf Bob Nos Wrecsam , cysylltwch â communitysafety@wrexham.gov.uk

Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=803&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”] CWBLHEWCH EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol 5 peth diddorol am Borras 5 peth diddorol am Borras
Erthygl nesaf bus station Newidiadau i wasanaethau bws … darllenwch mwy

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English