Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch i archwilio un o safleoedd hanesyddol harddaf Wrecsam …
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dewch i archwilio un o safleoedd hanesyddol harddaf Wrecsam …
Pobl a lle

Dewch i archwilio un o safleoedd hanesyddol harddaf Wrecsam …

Diweddarwyd diwethaf: 2019/02/18 at 3:23 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Dewch i archwilio un o safleoedd hanesyddol harddaf Wrecsam ...
RHANNU

Ydych chi wedi archwilio phyllau plwmna a parc gwledig hardd y Mwynglawdd?

Cynnwys
Taith dywys a diwrnod gwybodaeth am wirfoddolwyrPlu, Porthwyr a PhlantBingo Natur

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn rhedeg rhai digwyddiadau am ddim i oedolion a phlant yr wythnos nesaf i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr ardal wych hon o hanes a bywyd gwyllt.

Os nad ydych erioed wedi bod yno, mae’r safle yn lle gwych i gael cipolwg diddorol i hanes lleol. Yn yr amgueddfa gallwch archwilio olion yr ardaloedd prosesu plwm o’r 18fed a’r 19eg ganrif a’r peiriandy, y peiriant weindio a’r boilerdai a adferwyd.

Gan gwmpasu 53 erw o laswelltir, llecynnau coediog a safleoedd archeolegol, mae’r Mwynglawdd yn ymhyfrydu mewn amrywiaeth o fywyd gwyllt a chyfleoedd di-ben-draw i ymgolli mewn heddwch a llonyddwch.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Taith dywys a diwrnod gwybodaeth am wirfoddolwyr

Dydd Iau Chwefror 28, 12pm-4pm
Am ddim

Digwyddiad i oedolion – Ymunwch â ni ar daith gerdded dywysedig o amgylch Pyllau Plwm a Pharc Gwledig y Mwynglawdd, gan archwilio’r mwyngloddiau a’r treftadaeth ddiwydiannol.

Mae’r daith yn dechrau am 1.30pm ac yn para am tua 1.5 awr.

Os hoffech chi gefnogi’r safle treftadaeth diddorol hwn, mae amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael. Dewch draw ar y diwrnod i ddysgu rhagor am y Mwynglawdd ac i weld a allech chi fod yn rhan o’i ddyfodol!

Plu, Porthwyr a Phlant

Dydd Llun Chwefror 25, 1pm-3pm
Am ddim

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy cyfeillgar i’r teulu, darllenwch ymlaen!

Cyfle i blant greu porthwr neu fwydwr adar syml a chael hwyl wrth ddilyn ein llwybr drwy’r
parc i chwilio am adar ar ein taith.

Binociwlars ar gael neu dewch â’ch rhai eich hun.

Bingo Natur

Dydd Gwener 1af Mawrth
Sesiwn 1: 10.30am -11.15am
Sesiwn 2: 11.45am-12.30pm
Am ddim

Un arall i’r plant, ymunwch â Kate am sesiwn hwyliog o bingo natur sy’n edrych ar y parc gwledig a dysgu am y trigolion bywyd gwyllt.

Dewiswch pa sesiwn rydych chi am ddod.

  • Cynhelir yr holl weithgareddau yn yr awyr agored felly gwisgwch ddillad ac esgidiau addas os gwelwch yn dda.
  • Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol bob amser.
  • Mae toiledau ar y safle.
  • Digwyddiadau yn dibynnu ar y tywydd, cadwch lygad ar
    ein tudalen Facebook ar y diwrnod.

www.groundworknorthwales.org.uk/visitminera
info@groundworknorthwales.org.uk
Facebook
01978 757524

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Capel Ebeneser, Cefn Mawr - Datganiad Capel Ebeneser, Cefn Mawr – Datganiad
Erthygl nesaf Lle yn y rownd derfynol ar gyfer y bwdin breuddwydol hon Lle yn y rownd derfynol ar gyfer y bwdin breuddwydol hon

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Cycling
DigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n hyderus yn beicio?

Awst 13, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English