Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffioedd clwb brecwast ysgolion yn dechrau cyn bo hir
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ffioedd clwb brecwast ysgolion yn dechrau cyn bo hir
Busnes ac addysgY cyngor

Ffioedd clwb brecwast ysgolion yn dechrau cyn bo hir

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 22, 2019 4:13 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ffioedd clwb brecwast ysgolion yn dechrau cyn bo hir
RHANNU

Dyma’r newyddion diweddaraf am ein cyhoeddiad fis Hydref mewn perthynas â ffioedd ar gyfer clybiau brecwast ysgolion.

Cynnwys
  • Pam bod angen y ffi?
  • Sut ydw i’n talu?

Daeth gweithrediad y ffioedd yn dilyn ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd a gynhaliwyd yn ystod hydref 2017.

Bu penderfyniad i weithredu ffi o £1 i gyfrannu at gostau elfennau goruchwylio’r Clybiau Brecwast mewn ysgolion cynradd.

Bydd y ffi newydd yn dod i rym ddydd Llun, 4 Mawrth.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Pam bod angen y ffi?

Ers 2004, mae sawl ysgol gynradd wedi bod yn rhedeg y cynllun clwb brecwast am ddim. Mae 51 ysgol nawr yn rhedeg y cynllun hwn.

Mewn gwirionedd, dim ond am hanner awr cyn i’r diwrnod ysgol ddechrau sydd angen i’r elfen “brecwast am ddim”, a oedd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn wreiddiol, fod ar gael.

Mae ysgolion wedi cael hi’n anodd recriwtio staff am hanner awr yn unig, felly mae’r staff goruchwylio wedi bod yn cael eu cyflogi am awr bob dydd – gan ddarparu gofal plant di-dâl cyn i’r diwrnod ysgol ddechrau’n swyddogol.

Bydd cyfnod olaf y gwasanaeth i’w gael am ddim o hyd i bob disgybl, ond i’r rhieni neu warcheidwaid hynny sydd eisiau mynd â’u plant i’r ysgol yn ystod cyfnod cyntaf y cynllun, byddwn yn codi ffi o £1 y plentyn y dydd, er mwyn cyfrannu at gostau’r oruchwyliaeth sydd ei hangen.

Er enghraifft, os yw’r diwrnod ysgol yn cychwyn am 8:50am, dim ond ar y plant sy’n cyrraedd yno rhwng 7:50am a 8.20am y byddwn yn codi ffi.

Bydd yr amseroedd yn amrywio o ysgol i ysgol, felly bydd angen i rieni wirio gydag ysgol eu plentyn i wybod rhwng pa amseroedd y codir ffi.

Ni fydd rhaid i blant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dalu’r ffi hon.

Bydd y cynllun yn parhau i gael ei gynnal am oddeutu awr y dydd yn yr ysgolion sy’n cymryd rhan, cyn amser cychwyn swyddogol y diwrnod ysgol.

Sut ydw i’n talu?

Bydd modd i rieni dalu ar ein gwefan – chwiliwch ar yr e-siop am “brecwast”  neu “clwb brecwast” ar gyfer yr ysgol berthnasol – neu mae modd iddynt wneud taliadau arian parod i uwch oruchwyliwr y clwb brecwast.

(Nodwch na fydd goruchwylwyr yn gallu darparu newid, felly mae’n rhaid i rieni sicrhau eu bod yn anfon y swm cywir).

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Llwyth o weithgareddau am ddim i’w ceisio yn ystod Penwythnos Agored Freedom Leisure Llwyth o weithgareddau am ddim i’w ceisio yn ystod Penwythnos Agored Freedom Leisure
Erthygl nesaf Cynhaliwyd Brecwast Busnes llwyddiannus cyntaf yn 2019 yn Nhŷ Pawb Cynhaliwyd Brecwast Busnes llwyddiannus cyntaf yn 2019 yn Nhŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English