Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngorDigwyddiadau

Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!

Diweddarwyd diwethaf: November 10, 2026 4:25 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
RHANNU

Mae’r Nadolig ar ei ffordd, ac mae digon i edrych ymlaen ato yn Wrecsam yn ystod tymor yr ŵyl, gyda pharcio am ddim, marchnadoedd Nadolig, adloniant a gweithgareddau i’r teulu cyfan.

P’un a ydych chi’n awyddus i fwrw ati efo’ch siopa Nadolig, mwynhau diwrnod allan Nadoligaidd neu fwynhau’r awyrgylch, mae gan ganol dinas Wrecsam rywbeth at ddant pawb.

A gyda pharcio am ddim ar gael ar ddyddiadau penodol trwy gydol cyfnod yr ŵyl, mae’n haws fyth gwneud y gorau o’r hyn sydd gan y ddinas i’w gynnig.

Mwynhewch barcio am ddim dros y Nadolig

Gall trigolion ac ymwelwyr fwynhau parcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio’r Cyngor yn ystod cyfnod yr ŵyl, ac eithrio Tŷ Pawb, gan ei gwneud hi’n haws ymweld â chanol y ddinas ar gyfer siopa Nadolig, dathliadau’r ŵyl a diwrnodau allan gyda theulu a ffrindiau.

O 26Tachwedd – 24 Rhagfyr, bydd parcio am ddim ar gael ar yr amseroedd canlynol:

  • Dydd Sul – Dydd Iau: 3pm tan hanner nos
  • Dydd Gwener a dydd Sadwrn: 9.30am tan hanner nos

P’un a ydych chi’n chwilio am y presant perffaith, yn mwynhau pryd Nadoligaidd neu’n archwilio canol y ddinas, mae’r trefniadau parcio am ddim yn rhoi rheswm arall i ymweld â Wrecsam a chefnogi ei busnesau lleol.

Gall ymwelwyr sy’n gyrru i mewn i Wrecsam hefyd elwa o arwyddion parcio digidol sy’n dangos nifer y lleoedd sydd ar gael mewn meysydd parcio perthnasol.

Mae’r arwyddion yn rhoi gwybodaeth gyfredol am argaeledd parcio i yrwyr, gan eu helpu i benderfynu ble i barcio cyn cyrraedd eu cyrchfan.

Beth sy’n digwydd yn Wrecsam dros y Nadolig?

Mae digon i edrych ymlaen ato wrth i Wrecsam fynd i ysbryd y Nadolig, gyda rhaglen wych o ddigwyddiadau, marchnadoedd a gweithgareddau Nadoligaidd yn cael eu cynnal ledled y ddinas.

O gynnau’r goleuadau Nadolig a marchnadoedd traddodiadol i adloniant teuluol a chyfleoedd i gasglu’r presantau pwysig hynny.

Cefnogwch yn lleol yn ystod tymor yr ŵyl

Mae’r Nadolig yn gyfnod pwysig i fusnesau lleol, ac mae ymweld â Wrecsam yn ffordd wych o ddangos eich cefnogaeth.

O siopau annibynnol a marchnadoedd traddodiadol i gaffis, bwytai a ffefrynnau’r stryd fawr, mae canol y ddinas yn cynnig digon o gyfleoedd i siopa, bwyta a mwynhau amser gyda theulu a ffrindiau.

Manteisiwch i’r eithaf ar Wrecsam

Gyda pharcio am ddim, arwyddion digidol defnyddiol, marchnadoedd Nadolig ac adloniant yr ŵyl, mae digon i’w fwynhau yn Wrecsam dros y Nadolig.

Felly beth am gasglu eich ffrindiau a’ch teulu, mwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd a chefnogi’r busnesau gwych sy’n gwneud Wrecsam yn arbennig?

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, “Mae’r Nadolig yn amser gwych i ymweld â Wrecsam, ac rydyn ni am ei gwneud mor hawdd â phosib i drigolion ac ymwelwyr ddod i ganol y ddinas, mwynhau’r dathliadau a chefnogi ein busnesau lleol.

“Trwy gynnig parcio am ddim drwy gydol cyfnod yr ŵyl, rydyn ni’n annog pobl i wneud y gorau o bopeth sydd gan Wrecsam i’w gynnig, o’n siopau a’n bwytai annibynnol i’r marchnadoedd Nadolig ac adloniant.

“Mae hefyd yn bwysig atgoffa pobl y gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim ym meysydd parcio’r Cyngor drwy gydol y flwyddyn.

“Rydyn ni eisiau i Wrecsam fod yn ddinas groesawgar a hygyrch i bawb, ac rydw i’n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y trefniadau hyn ac yn mwynhau popeth sy’n digwydd dros y Nadolig.

“Hoffwn gofnodi fy niolch i Grŵp Annibynnol y Cyngor ac aelodau’r Gynghrair am eu cefnogaeth i wneud i hyn ddigwydd.”

Am fanylion llawn meysydd parcio’r Cyngor, ewch i Dod o hyd i faes parcio.

Rhannu
Erthygl flaenorol Chirk Aqueduct Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Chirk Aqueduct
Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun
Pobl a lle Digwyddiadau
November 10, 2026
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Y cyngor
November 10, 2026
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Pobl a lle Digwyddiadau
November 6, 2026
Wrecswyl Logo
Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!
Pobl a lle Digwyddiadau
November 6, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Library
Y cyngorPobl a lle

Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn

November 5, 2026
Maes Parcio
Pobl a lleDigwyddiadau

🚗🚌 Wrecsam v Wolves – beth am Barcio a Theithio? ⚽

November 5, 2026
Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau
Y cyngor

Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau

November 4, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni
Digwyddiadau

Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni

November 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English