Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailgylchu Gwastraff Bwyd? Ateb eich cwestiynau…..
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ailgylchu Gwastraff Bwyd? Ateb eich cwestiynau…..
ArallY cyngor

Ailgylchu Gwastraff Bwyd? Ateb eich cwestiynau…..

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 4, 2019 3:43 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ailgylchu Gwastraff Bwyd? Ateb eich cwestiynau.....
RHANNU

Ddim yn ailgylchu eich gwastraff bwyd eto ond yn meddwl y dylech ddechrau?

Oes gennych ambell gwestiwn arall cyn dechrau?

Wel, mae yna gyfle ddydd Gwener, 8 Mawrth i gael atebion i’ch holl gwestiynau ailgylchu gwastraff bwyd gan y bydd yr Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant wrth law yn Tŷ Pawb i siarad hefo chi. Gallwch hefyd gasglu bagiau compostio ac archebu unrhyw cadis fyddwch eu hangen.

Byddan nhw yno rhwng 10am a 12.30pm.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Mae yna fanteision i ailgylchu bwyd, er enghraifft mae’n cael ei wagu bob wythnos – dim mwy o fwyd o amgylch eich bin du am bythefnos gyda’r risg o arogl digroeso yn y tywydd cynhesach.

Mae’n well i’r amgylchedd a gallwch gasglu compost am ddim o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.

Gallwch hefyd gadw golwg ar unrhyw fwyd rydych yn ei daflu’n rheolaidd ac mae rhai trigolion wedi dweud fod faint o wastraff bwyd sydd ganddynt nawr yn llai gan ei bod yn amlwg eu bod yn prynu bwyd nad oeddent ei angen ac yn ei wastraffu.

Dywedodd un o’r trigolion wrthym “Roedd yn agoriad llygad gweld faint o fwyd roeddem yn ei daflu bob wythnos.   Roedd yn gwneud i ni feddwl amdano’n ofalus ac rydym nawr yn cael dognau llai sy’n golygu bod ein bwyd yn mynd yn bellach ac rydym yn prynu llai – dim mwy o wastraffu ffrwythau, bara neu bethau fel pate a chaws meddal!”

“160 mewn cysylltiad yn yr wythnos ddiwethaf“

Dywedodd y Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “bu llawer o ddiddordeb yn ddiweddar gyda thrigolion yn dymuno ailgylchu eu gwastraff bwyd ac maent yn gofyn llawer o gwestiynau am yr hyn mae’n ei olygu.   I’r rhan fwyaf sydd wedi bod yn ei wneud ers peth amser mae’n rhan o arferiad sy’n hawdd addasu iddo.  Mae dros 160 wedi bod mewn cysylltiad yn yr wythnos ddiwethaf yn unig i ofyn am gadis llwyd i ddechrau ailgylchu.  Mae’n wych bod yna ddiddordeb o’r newydd ac mae swyddogion a minnau’n awyddus i wneud yn siŵr yr atebir pob cwestiwn.”

Cofiwch y dyddiad: Dydd Gwener, 8 Mawrth rhwng 10am a 12.30pm yn Tŷ Pawb.

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bws Diogelwch Seiber i Ymweld â Wrecsam Bws Diogelwch Seiber i Ymweld â Wrecsam
Erthygl nesaf Y gorau! Mae Caffi Amgueddfa Wrecsam wedi enill wobr fwyd mawr! Y gorau! Mae Caffi Amgueddfa Wrecsam wedi enill wobr fwyd mawr!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English