Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y gorau! Mae Caffi Amgueddfa Wrecsam wedi enill wobr fwyd mawr!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed
Pobl a lle Y cyngor
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Y gorau! Mae Caffi Amgueddfa Wrecsam wedi enill wobr fwyd mawr!
Busnes ac addysgPobl a lle

Y gorau! Mae Caffi Amgueddfa Wrecsam wedi enill wobr fwyd mawr!

Diweddarwyd diwethaf: 2019/03/04 at 4:31 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Y gorau! Mae Caffi Amgueddfa Wrecsam wedi enill wobr fwyd mawr!
Year of Discovery 2019 Final
RHANNU

Mae tîm Caffi Cowt Amgueddfa Wrecsam yn dathlu ar ôl ennill Her Bwyd Blwyddyn Darganfod 2019!

Cynnwys
Dathliad o fwyd lleol‘Mor hapus’

Mae ymgais yr Amgueddfa, a elwir yn ‘Nef ar y Ddaear’, yn gyfuniad breuddwydol o gacen siocled, aeron ac hufen iâ espresso.

Dewiswyd yr enillydd gan banel o feirniaid mewn rownd derfynol a gynhaliwyd ddoe yn y Bwyty Celstryn ar gampws Coleg Cambria yn Glannau Dyfrdwy.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Dathliad o fwyd lleol

Mae Her Bwyd Blwyddyn Darganfod Gogledd Ddwyrain Cymru yn ymwneud â dathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r golygfa fwyd anhygoel sydd gennym yn ein hardal leol.

Cymerodd 19 o westeion o Ogledd Cymru ran yn y gystadleuaeth mewn nifer o gategoriau.

Cafodd dîm o siopwyr dirgel y dasg o flasu a sgorio’r prydau iddewis pwy aeth i’r rownd derfynol.

Enillod Caffi Cowt yr Amgueddfa Wrecsam o flaen Caffi Strawberry Fields yn siop Bellis Brothers (yn Holt).

Cyflwynwyd y wobr gan Dafydd Elis-Thomas AC, y dirprwy weinidog dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth.

Y gorau! Mae Caffi Amgueddfa Wrecsam wedi enill wobr fwyd mawr!

‘Mor hapus’

Dywedodd Karen Harris, rhan o dîm Caffi Cowt yr Amgueddfa: “Rydym mor hapus ein bod wedi ennill! Mae’n anrhydedd mawr i ni ddod ar frig rhestr a oedd yn cynnwys rhai o’r caffis a’r bwytai gorau yng Ngogledd Cymru.

“Roedd ein cofnod yn ddathliad go iawn o fwyd lleol yng Ngogledd Cymru, rhywbeth rydyn ni’n falch iawn i arddangos yn Caffi Cowt yr Amgueddfa. Fe wnaethon ni ddefnyddio amrywiaeth o gyflenwyr bwyd lleol i greu’r pwdin, gan gynnwys Eat My Flowers, Celtic Honey Smith, Chilly Cow Ice Cream, Aballu Artisan Chocolatier a Mrs Picklepot. Mae’n wych gweld bod hyn wedi’i gydnabod.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau Diogelwch y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Hugh Jones: “Mae’r wobr hon yn haeddiannol iawn ac rwy’n falch iawn bod gwaith caled tîm Caffi Cowt yr Amgueddfa, Karen Harris, Paula Hanmer a Caroline Roberts wedi cael ei gydnabod.

“Mae’r Caffi Cowt yn gwneud ymdrech fawr i arddangos cyflenwyr bwyd lleol, nid yn unig gyda’r ymgais i’r cystadleuaeth ond gyda’u holl brif brydau a’r cynnyrch maent yn ei werthu.

“Bydd y wobr hon yn gwella eu henw da ymhellach a byddwn yn annog pawb i ymweld â’r Amgueddfa a Chaffi a rhoi cynnig ar rai o’r bwyd rhagorol sydd ganddynt ar gael.”

Ar ol yr holl sgwrs bwyd hwn efallai y byddwch am ddod i’r amgueddfa i flasu ‘Nef ar y Ddaear’ i chi’ch hun! Mae ar gael nawr!

Prif lun, i’r chwith: “Jim Jones (Twristiaeth Gogledd Cymru), Karen Harris (Amgueddfa Wrecsam), Dafydd Elis-Thomas AC, (Dirprwy weinidog dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth), Paula Hanmer (Amgueddfa Wrecsam), Grant Williams ( Prif Gogydd, The West Arms).

Credyd llun: Ginger Pixie Photography

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Amgueddfa Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol Ailgylchu Gwastraff Bwyd? Ateb eich cwestiynau..... Ailgylchu Gwastraff Bwyd? Ateb eich cwestiynau…..
Erthygl nesaf libraries Sesiynau Sgwrsio, Iaith a Chwarae yn eich Llyfrgell Leol

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 3, 2025
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 2, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
DigwyddiadauPobl a lle

Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!

Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English