Gall llyfrgell fod yn lle gwych i weithio…
Byddwch yn gweithio o amgylch llenyddiaeth a chyfryngau sy’n gallu helpu pobl i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth, ac yn yr achos penodol hwn, sy’n gallu eu helpu i ddychwelyd i gymdeithas.
Y swydd…
Rydym yn hysbysebu ar gyfer Cynorthwy-ydd Llyfrgell Berwyn i weithio yn ein llyfrgell yng Ngharchar Berwyn.
Swydd am bedwar diwrnod yr wythnos yw hon (gan gynnwys bob yn ail ddydd Gwener a dydd Sadwrn), a bydd angen i chi weithio yn lle gweithwyr eraill pan fyddant ar eu gwyliau neu’n sâl hefyd.
Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd rheng flaen a all ambell waith fod yn heriol a llawn boddhad. Bydd eich ymroddiad a’ch brwdfrydedd yn gwneud gwahaniaeth yma, gan ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon i gymuned Berwyn.
Byddwch yn defnyddio’ch sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a’ch gwybodaeth i gyfrannu at redeg y gwasanaeth llyfrgell yn gyffredinol.
Mae’n swydd llawn boddhad i’r person cywir 🙂
Oes gennych chi ddiddordeb?
Dyma fwy o wybodaeth am yr hyn sydd ei angen arnoch…
Bydd angen o leiaf pump TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).
Byddai dealltwriaeth dda o lyfrgelloedd cyhoeddus ac awduron yn help, ac mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol hefyd.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, gallwch ffonio 01978 292090 neu 01978 292614.
Neu i weld y swydd-ddisgrifiad yn llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod 🙂
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw dydd Gwener, 15 Mawrth.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=2F73C516-DA25-D9A1-039414331B7C4337″] Gwych … Ddangoswch y SWYDD [/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/”] Na… Dw i’n iawn ddiolch [/button]