Library Books Job Vacancy

Gall llyfrgell fod yn lle gwych i weithio…

Byddwch yn gweithio o amgylch llenyddiaeth a chyfryngau sy’n gallu helpu pobl i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth, ac yn yr achos penodol hwn, sy’n gallu eu helpu i ddychwelyd i gymdeithas.

Y swydd…

Rydym yn hysbysebu ar gyfer Cynorthwy-ydd Llyfrgell Berwyn i weithio yn ein llyfrgell yng Ngharchar Berwyn.

Swydd am bedwar diwrnod yr wythnos yw hon (gan gynnwys bob yn ail ddydd Gwener a dydd Sadwrn), a bydd angen i chi weithio yn lle gweithwyr eraill pan fyddant ar eu gwyliau neu’n sâl hefyd.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd rheng flaen a all ambell waith fod yn heriol a llawn boddhad. Bydd eich ymroddiad a’ch brwdfrydedd yn gwneud gwahaniaeth yma, gan ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon i gymuned Berwyn.

Byddwch yn defnyddio’ch sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a’ch gwybodaeth i gyfrannu at redeg y gwasanaeth llyfrgell yn gyffredinol.

Mae’n swydd llawn boddhad i’r person cywir 🙂

Oes gennych chi ddiddordeb?

Dyma fwy o wybodaeth am yr hyn sydd ei angen arnoch…

Bydd angen o leiaf pump TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).

Byddai dealltwriaeth dda o lyfrgelloedd cyhoeddus ac awduron yn help, ac mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol hefyd.

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, gallwch ffonio 01978 292090 neu 01978 292614.

Neu i weld y swydd-ddisgrifiad yn llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod 🙂

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw dydd Gwener, 15 Mawrth.

Gwych … Ddangoswch y SWYDD Na… Dw i’n iawn ddiolch