Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Her Fawr yn Wynebu 7 o Bobl Ifanc o Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Her Fawr yn Wynebu 7 o Bobl Ifanc o Wrecsam
Pobl a lle

Her Fawr yn Wynebu 7 o Bobl Ifanc o Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Awst 16, 2017 4:05 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Her Fawr yn Wynebu 7 o Bobl Ifanc o Wrecsam
RHANNU

Bydd 7 o bobl ifanc o Wrecsam yn cael eu hyfforddi gan un o enwogion y byd rygbi, Gareth “Alfie” Thomas, a’r hyfforddwr rhedeg rhyngwladol James Thie i gystadlu yn Hanner Marathon Caerdydd, wedi’i drefnu gan Run4Wales, ar 1 Hydref.

Bydd pob un yn cael ei ffilmio yn rhan o Alfie’s Army 2017, cyfres deledu BBC 1 Wales.

Mae’r 7 rhedwr dewr: Yasmin Sides, 18, Sam Sides, 20, Jordan Jackson, 17, Jade Griffith, 17, Chloe Roberts, 17, Mia Jeffs, 17 a Tricia Jones, 22, yn mynd drwy raglen ymarfer cam-wrth-gam dros 16 wythnos ac mae ganddynt gynllun ymarfer wythnosol.

Fis Medi, fe fyddant yn cymryd rhan mewn ras ymarfer 10 cilomedr ac yn cyfarfod ag Alfie cyn ymuno ag o ar gyfer y ras fawr ei hun ar 1 Hydref.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Dros y 3 blynedd ddiwethaf, mae dros 200 o redwyr amatur o bob oed a gallu wedi llwyddo i gwblhau Hanner Marathon Caerdydd drwy ddilyn yr un cynllun ymarfer.

“eu canmol am eu gwaith caled”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi:

“Mae’n wych gweld pobl ifanc yn treulio peth o’u hamser yn ymarfer ac yn cymryd rhan mewn digwyddiad mor fawr. Mae angen eu canmol am eu gwaith caled ac mi ydw i’n dymuno pob lwc i bob un ohonyn nhw ar 1 Hydref!”

Her Fawr yn Wynebu 7 o Bobl Ifanc o Wrecsam

Rhai o’r bobl ifanc o Wrecsam sy’n rhan o Alfie’s Army: Jordan Jackson, Sam Sides, Mia Jeffs, Jade Griffiths a Yasmin Sides gyda Gareth Thomas yn ddiweddar.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Eisiau dysgu Cymraeg? Mae mwy o wybodaeth ar gael yma Eisiau dysgu Cymraeg? Mae mwy o wybodaeth ar gael yma
Erthygl nesaf Diddordeb mewn rhandiroedd? Mae mwy o wybodaeth ar gael yma. Diddordeb mewn rhandiroedd? Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English