Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dim plant yn unig sydd wedi cael eu hysbrydoli gan ailgylchu yn yr ysgol yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dim plant yn unig sydd wedi cael eu hysbrydoli gan ailgylchu yn yr ysgol yn Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Dim plant yn unig sydd wedi cael eu hysbrydoli gan ailgylchu yn yr ysgol yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 18, 2019 11:03 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Recycling School Caretaker
Graham Evans
RHANNU

Ychydig o amser yn ôl, mi wnaethom ddweud wrthych sut bu i grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria gael eu hysbrydoli i gyflwyno gwasanaeth i weddill yr ysgol, i siarad am fanteision ailgylchu.

Cynnwys
  • “Mae’n rhoi pethau mewn persbectif”
  • “Mae pawb yn meddwl ei fod yn mynd yn syth i safleoedd tirlenwi…”
  • Eisiau gwella eich sgiliau ailgylchu?

Roedd hyn yn dilyn eu hymweliad â’r Ystafell Addysg yng Nghanolfan Ailgylchu Bryn Lane, lle wnaethant ddysgu am y gwahanol fathau o finiau, beth ellir ei ailgylchu, beth sy’n digwydd i’n cynnyrch ailgylchu, a pham ei bod yn bwysig i beidio â llygru ailgylchu – ymysg pethau eraill.

Yn bresennol hefyd, roedd Graham Evans, Rheolwr Cynnal a Chadw yn Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria – er bod gwell ganddo gael ei alw’n ‘ofalwr’ – roedd wedi cael argraff dda yn dilyn y sesiwn sydd wedi gwella ei wybodaeth am ailgylchu.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych bod pobl yn cael gweld yr Ystafell Addysg a dysgu mwy am ailgylchu. Mae’n boblogaidd iawn ymysg ysgolion, mae ein gweithwyr Strydwedd wedi bod yno yn ddiweddar hefyd i ddysgu mwy. Mae gwybodaeth yn allweddol, a’r dealltwriaeth gwell hyn all ein helpu i gyrraedd ein targed ailgylchu o 70% erbyn 2025.”

Dyma beth oedd gan Graham i ddweud am ei ymweliad 🙂

“Mae’n rhoi pethau mewn persbectif”

Eglurodd Graham: “Roedd yr ymweliad i Ystafell Addysg yn ddefnyddiol iawn. Rwy’n credu byddai gofalwyr eraill yn ei weld yn fuddiol hefyd – mae’n rhoi popeth mewn persbectif.

“Rydych yn gweld lle mae popeth yn mynd ac yn dod i ddeall y broses ailgylchu. Mae’n gadael i chi weld pethau nad ydych yn cael gweld, mae’n gwneud synnwyr.”

Mae Catherine Golightly, Swyddog Strategaeth Gwastraff Cyngor Wrecsam yn cynnal y sesiynau sydd yn rhoi profiad ailgylchu rhyngweithiol i ddisgyblion.

Mae ffenestr wylio’n caniatáu i ddisgyblion weld sut mae deunyddiau ailgylchu’n cael eu bwndelu er mwyn mynd â nhw i’w hailgylchu’n gynhyrchion newydd.

Roedd Catherine yn falch bod y plant wedi defnyddio eu mentergarwch eu hunain i fwydo’r wybodaeth hyn yn ôl i weddill eu hysgol.

Dywedodd Catherine: “Mae’n gwneud y gweithdai yn werth yr ymdrech pan allwch weld bod yr unigolion wedi ystyried yr wybodaeth. Mae’n wych eu bod eisiau addysgu’r ysgol gyfan.

“Dylai’r disgyblion fod yn falch iawn o’r hyn y maent wedi’i gyflwyno.”

Dyma ein fideo byr o wasanaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria ar ailgylchu…

“Mae pawb yn meddwl ei fod yn mynd yn syth i safleoedd tirlenwi…”

Un o’r pethau mae Graham eisiau amlygu hefyd yn dilyn ei ymweliad yw pam ei fod yn bwysig i beidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy yn eich bin gwastraff du.

Dywedodd Graham: “Rhywbeth wnaeth sefyll allan oedd y bin gwastraff du. “Mae pawb yn meddwl ei fod yn mynd yn syth i safleoedd tirlenwi, ond nid ydynt. Mae’n mynd i Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam lle byddant yn ceisio tynnu gymaint o fetel a phlastig ohono ac y gallent.

“Mae angen mynd trwy’r deunyddiau ailgylchu i dynnu deunyddiau sydd wedi’u halogi gan wastraff arall.

“Hoffwn feddwl petai mwy o bobl yn gweld beth rwyf i wedi ei weld, y byddant yn deall beth yw ailgylchu ac yn y pen draw yn ailgylchu mwy.”

Eisiau gwella eich sgiliau ailgylchu?

Rhowch gynnig ar ein cwis plastig isod i weld sut rydych yn ei wneud…

[interact id=”5c5063a975b7dc00142e6072″ type=”quiz”]

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Community Inclusion Grant Wrexham Peidiwch ȃ cholli allan ar arian hanfodol i grwpiau ar draws Wrecsam
Erthygl nesaf Mae Tŷ Pawb ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn partneru am 2019! Mae Tŷ Pawb ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn partneru am 2019!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English