Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Seren deledu ac arbenigwr crefft byw yn y gwyllt yn cefnogi gwirfoddoli
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Seren deledu ac arbenigwr crefft byw yn y gwyllt yn cefnogi gwirfoddoli
ArallY cyngor

Seren deledu ac arbenigwr crefft byw yn y gwyllt yn cefnogi gwirfoddoli

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 24, 2019 1:45 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Seren deledu ac arbenigwr crefft byw yn y gwyllt yn cefnogi gwirfoddoli
Plas Pentwyn, Coedpoeth, Volunteers working on the garden and orchard with pupils from Penygelli school; Pictured (from left) are Jane Purdie, Jane Robertson, Hayley Morgan and Moira Taylor. Picture Mandy Jones
RHANNU

Bydd Andrew Thomas-Price, sy’n wyneb cyfarwydd ar y teledu yn hyrwyddo crefft byw yn y gwyllt yn ymuno a grŵp o arddwyr talentog ym Mhlas Pentwyn, Coedpoeth ddydd Iau, Ebrill 25 er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i wirfoddoli ar brosiectau yn ardal Wrecsam.

Bydd Gweithredu yn y Gwanwyn yn rhedeg o 12pm gan 4pm ac yn cynnwys llu o weithgareddau i bawb roi cynnig arnynt, o gynaeafu gwair i gyfeiriannu i gywasgu afalau a chwilio am ffosiliau!

Meddai Andrew: “Rydw i wedi teithio ar draws Cymru ac wedi profi ei harddwch eithriadol a’i hamrywiaeth, ac mae hyn yn aml iawn yn ganlyniad i ymdrechion a brwdfrydedd gwirfoddolwyr.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

“Pobl gyffredin sy’n gwneud pethau rhyfeddol yw’r gwirfoddolwyr hyn sy’n  cyfrannu gymaint at yr amrywiol waith maen nhw’n ei wneud, a ‘dw i hefyd wedi gweld cymaint maen nhw eu hunain yn ei gael o’r gwaith a faint mae’n ei olygu i’r cymdeithasau a’r cymunedau maen nhw’n byw ynddynt

“Mae Wrecsam yn ffodus i fod â llawer o gyfleoedd gwirfoddoli gwych yng Nghanolfan Treftadaeth Brymbo, Plas Pentwyn, Melin y Nant, Chwarel y Mwynglawdd a mannau eraill ac mae’n wych gweld pobl o bob oed yn cymryd rhan.”

Yn ymuno ag Andrew bydd aelodau o Glwb Garddio Cymunedol Plas Pentwyn, enillwyr y Faner Werdd am ddwy flynedd yn olynol. Gwirfoddolwyr yw aelodau’r clwb sydd ymysg pethau eraill wedi creu perllan dreftadaeth sy’n cynnwys rhai o goed ffrwythau prinnaf Cymru.

Meddai un o’r aelodau a sefydlodd y clwb, Moira Taylor o Goedpoeth: “’Da ni i gyd yn arddwyr brwd a ddaeth at ei gilydd tua wyth mlynedd yn ôl mewn dosbarth creu basgedi hongian ym Mhlas Pentwyn, a soniodd rhywun bod ‘na ardd fach yma.

“Mi wnaethon ni benderfynu tyfu ychydig o lysiau yma a rŵan mae gynnon ni wlâu wedi’u codi, llu o blanhigion, blodau, perlysiau, llysiau a ffrwythau a sied arddio.

“Erbyn hyn ‘da ni hyd yn oed ar gwricwlwm yr ysgol ac mae grŵp o wyth o blant yn dod bob tymor i helpu ac i ddysgu am arddio ac mae’n beth braf eu gweld nhw’n cymryd rhan.”

Trefnwyd y digwyddiad Gweithredu yn y Gwanwyn gan Hayley Morgan o Dîm Busnes a Buddsoddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a ddywedodd: “Da ni am dynnu sylw at y cyfleoedd sy’n bodoli i wirfoddoli yma yn Wrecsam a’r amrywiaeth o brosiectau y gall pobl weithio arnynt.

“Nid dim ond bod yn barod i faeddu dwylo mae hyn yn ei olygu, er bod hynny’n bwysig – mae yna hefyd sgiliau eraill sydd eu hangen ar y prosiectau hyn megis sgiliau marchnata, gweinyddu, cyfrifo – gall pawb chwarae eu rhan a dysgu sgiliau newydd ar yr un pryd.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac wedi’i  anelu at recriwtio mwy o wirfoddolwyr ar gyfer prosiectau cymunedol ac annog pobl i chwarae mwy o ran yn lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Agored Gwirfoddolwyr Gweithredu yn y Gwanwyn cysylltwch â Plas Pentwyn neu ffoniwch  01978 667328.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwledd o noson ar y ffordd i ddarllenwyr ffuglen hanesyddol... Gwledd o noson ar y ffordd i ddarllenwyr ffuglen hanesyddol…
Erthygl nesaf Ydych chi'n mwynhau mynd a'ch ci am dro? - Dylech chi ddarllen hwn Ydych chi’n mwynhau mynd a’ch ci am dro? – Dylech chi ddarllen hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English