Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Mae’n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026
DigwyddiadauY cyngor

Mae’n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026

Diweddarwyd diwethaf: November 17, 2026 10:30 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Mae'n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru yn gwahodd trigolion i ymuno â nhw ar gyfer digwyddiad arbennig yn Tŷ Pawb i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026 a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher 25 Tachwedd, 11am-2pm, yn y gofod hyblyg yn Tŷ Pawb, gan ddod â sefydliadau lleol, gwasanaethau cymorth ac aelodau o’r gymuned at ei gilydd.

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn ymgyrch ryngwladol a gynhelir yn flynyddol ar 25 Tachwedd, gan annog pawb i chwarae rhan yn y gwaith o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, gyda ffocws penodol ar gefnogi dynion a bechgyn i ddod yn gyfeillion gweithredol.

Mae thema’r ymgyrch eleni, ‘Mae’n cymryd pob un ohonom’, yn tynnu sylw at ein cyfrifoldeb cyffredin i greu cymunedau mwy diogel. Gallai hyn gynnwys herio rhywiaeth bob dydd, siarad yn erbyn agweddau ac ymddygiad niweidiol, a chefnogi’r rhai sydd wedi’u heffeithio arnynt gan gamdriniaeth.

Beth sy’n digwydd ar y diwrnod?

Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i ddod â phobl at ei gilydd, annog sgyrsiau a chodi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael.

Bydd y diwrnod yn dechrau gydag areithiau agoriadol a pherfformiadau cerddorol gan Cantorion Rhos, a fydd yn perfformio caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd yna hefyd ddetholiad o stondinau gwybodaeth, gan roi cyfle i ymwelwyr siarad â sefydliadau lleol, dysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael a dysgu ble i gael gafael ar gyngor a chymorth.

Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i sefydliadau ac aelodau o’r gymuned gysylltu, rhannu gwybodaeth a thrafod sut y gall pawb gyfrannu tuag at atal trais yn erbyn menywod a merched.

Gweithio gyda’n gilydd i wneud Wrecsam yn fwy diogel

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau â’i waith i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched drwy Ymgyrch Virtue, menter sy’n canolbwyntio ar wella diogelwch ar draws canol y ddinas.

Mae Ymgyrch Virtue yn dwyn ynghyd ystod o brosiectau a mentrau sydd â’r nod o atal trais yn erbyn menywod a merched trwy addysg, atal troseddu, gweithio mewn partneriaeth a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Mae’r ymgyrch yn annog pobl i herio ymddygiad misogynistaidd, cymryd dull dim goddefgarwch at aflonyddu a rhoi gwybod am bryderon neu ddigwyddiadau i’r heddlu.

Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid, gan gynnwys Cyngor Wrecsam, mae swyddogion yn cefnogi mentrau fel Siarter Diogelwch Menywod Gogledd Cymru, sy’n annog busnesau a lleoliadau i greu amgylcheddau mwy diogel i fenywod sy’n mwynhau economi’r nos yng nghanol y ddinas.

Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys ymgysylltu â busnesau lleol, addysg a mentrau diogelu, gan helpu i adeiladu canol dinas lle mae menywod a merched yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu ac yn cael eu cefnogi.

Mae nodau Ymgyrch Virtue yn adlewyrchu’n agos neges Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni bod gan bawb gyfrifoldeb i herio agweddau niweidiol a helpu i atal trais yn erbyn menywod a merched.

Dywedodd Prif Arolygydd Wrecsam, Caroline Mullen-Hurst: “Mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn dechrau gydag addysg am ymddygiad annerbyniol, cymryd camau ymarferol a gweladwy i sicrhau bod menywod yn teimlo’n ddiogel a chreu amgylcheddau lle mae pawb yn cael eu parchu, eu cefnogi a’u hamddiffyn.

“Trwy fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n sail i drais yn erbyn menywod a merched, gallwn greu amgylchedd lle nad yw menywod a merched yn dod yn ddioddefwyr yn y lle cyntaf.  Fodd bynnag, mae datrys y mater yn gyfrifoldeb i bob un ohonom.

“Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n gwaith parhaus i rymuso cymunedau i herio aflonyddu, cefnogi dioddefwyr a rhoi gwybod am bryderon cyn i ymddygiadau waethygu.

“Fel rhan o Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, byddwn yn parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd bod dynion yn rhan o’r ateb i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.

“Rydym yn annog pobl i fyfyrio ar eu hymddygiad eu hunain, herio ymddygiad eraill, ac ystyried sut y gall eu gweithredoedd effeithio ar y rhai o’u cwmpas.”

Mae’n cymryd pob un ohonom

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, eiriolwr Cyngor Wrecsam ar drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, “Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn nodyn atgoffa pwysig bod rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched yn gyfrifoldeb i bawb.

“Mae’n ymwneud â chydnabod agweddau ac ymddygiadau niweidiol, codi llais pan nad yw rhywbeth yn iawn a gwneud yn siŵr bod y rhai sy’n profi camdriniaeth yn gwybod bod cymorth a chefnogaeth ar gael.

“Drwy ymuno â Heddlu Gogledd Cymru a sefydliadau lleol, gallwn godi ymwybyddiaeth, annog sgyrsiau pwysig a helpu i greu cymuned fwy diogel i bawb.

“Byddwn yn annog trigolion i ddod draw, cael gwybod mwy am yr ymgyrch a dysgu sut y gallwn i gyd wneud gwahaniaeth.”

Dysgwch fwy a chael cymorth

I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Rhuban Gwyn 2026 a dysgu sut y gallwch gymryd rhan, ewch i wefan Diwrnod y Rhuban Gwyn.

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am Ymgyrch Virtue ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Os ydych wedi profi camdriniaeth, neu os ydych yn poeni am aelod o’r teulu neu ffrind, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos trwy sgwrs ar-lein, e-bost, neu dros y ffôn ar 08088010800.

Rhannu
Erthygl flaenorol People working in an office Lansio rhaglen cymorth cyflogaeth newydd yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

People working in an office
Lansio rhaglen cymorth cyflogaeth newydd yn Wrecsam
Y cyngor Busnes ac addysg
November 16, 2026
Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las
Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las
Y cyngor
November 16, 2026
Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)
Pobl a lle Arall
November 13, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Digwyddiadau Pobl a lle
November 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Foster carers Del and Gary from Wrexham
Y cyngorPobl a lle

Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal

November 12, 2026
telecare scam
Y cyngorPobl a lle

Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid

November 12, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

October 22, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngorDigwyddiadau

Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!

November 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English