Fe’ch gwahoddir i ddarganfod, dathlu a helpu i lywio dyfodol coed a choetiroedd yn Wrecsam
Mae Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn gwahodd pobl i ymuno â dathliad arbennig ar Wythnos Genedlaethol Coed yn Tŷ Pawb ddydd Llun 23 Tachwedd rhwng 10am a 4pm, gan ddod â chymunedau, partneriaid ac arbenigwyr ynghyd i archwilio’r rôl bwysig y mae coed yn ei chwarae mewn bywyd bob dydd. Wedi’i ffurfio yn 2022, sefydlwyd Partneriaeth Coedwig Wrecsam gan Gyngor Wrecsam o dan arweiniad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Wrecsam i weithredu’r Strategaeth Coed a Choetiroedd. Mae’r Bartneriaeth yn dwyn ynghyd grŵp amrywiol o randdeiliaid wedi’u huno gan weledigaeth gyffredin; gwarchod, gwella ac ehangu coetiroedd Wrecsam ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Bydd y digwyddiad am ddim hwn yn cynnwys siaradwyr gwadd, gweithgareddau rhyngweithiol a chyfleoedd i ddysgu mwy am y gwaith sy’n digwydd ledled Wrecsam i warchod a gwella treftadaeth naturiol yr ardal.
Mae thema Wythnos Genedlaethol Coed eleni, “Coed yn Agos Atoch Chi”, yn dathlu’r coed sy’n rhan o’n bywydau bob dydd. O’r rheini sy’n sefyll mewn rhesi ar strydoedd ac mewn parciau i goed ar diroedd ysgolion, cymunedau a mannau gwyrdd lleol, mae’r coed hyn yn darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, yn gwella iechyd a lles, ac yn helpu i greu lleoedd gwyrddach ac iachach i bobl fyw ynddyn nhw.
Bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Clywed gan siaradwyr gwadd am ymdrechion i warchod a gwella coed a choetiroedd Wrecsam.
- Mynd â choeden am ddim adref gan Coed Cadw a helpu i ehangu canopi coed Wrecsam.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau mapio cymunedol dan arweiniad Prifysgol Wrecsam, gan helpu i nodi coed lleol gwerthfawr a llunio blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer coed a choetiroedd ar draws y fwrdeistref sirol.
- Dysgu sut y gall pobl leol ofalu am goed a hyrwyddo coed yn eu cymdogaethau a chymryd rhan mewn gweithgareddau plannu coed, rheoli cynefinoedd neu gofnodi.
- Dysgu sut y gall gwarchod a gwella coed a choetiroedd Wrecsam ein helpu i ddod yn fwy gwydn yn erbyn yr hinsawdd.
Dywedodd llefarydd ar ran Partneriaeth Coedwig Wrecsam:
“Mae Wythnos Genedlaethol Coed yn gyfle i ddathlu’r coed sy’n ein hamgylchynu bob dydd a chydnabod y manteision niferus maen nhw’n eu rhoi i’n cymunedau. P’un a ydyn nhw’n cynnig cysgod yn ein parciau, yn cefnogi bywyd gwyllt lleol neu’n gwella ein lles, mae coed yn hanfodol i greu lleoedd iach a gwydn. Fodd bynnag, does gan bawb ddim mynediad cyfartal i’r manteision mae coed yn eu cynnig ac mae rhai pobl yn byw heb goed. Nod Partneriaeth Coedwig Wrecsam yw ysbrydoli trigolion i gysylltu â’r coed o’u cwmpas a dod o hyd i ffyrdd ymarferol y gallan nhw gefnogi dyfodol gwyrddach i Wrecsam.
Rydyn ni’n llawn cyffro i gynnig coed am ddim i drigolion lleol drwy Coed Cadw. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn mynd â choeden adref, ei phlannu, ac yn chwarae eu rhan eu hunain wrth dyfu canopi Wrecsam yn y dyfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod.”
Mae Wythnos Genedlaethol Coed yn nodi dechrau tymor plannu coed y gaeaf ac yn annog pobl i gymryd rhan yn y gwaith o greu cymunedau gwyrddach ac iachach. Fel rhan o hyn, bydd trigolion lleol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad plannu coed yn Stori Brymbo ar 25 Tachwedd drwy brosiect Coedwig Hir Drefol Cadwch Gymru’n Daclus. Wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect yn gweithio gyda chymunedau i ddod â mwy o goed i fannau trefol, gan helpu i greu cymdogaethau gwyrddach a gwella mynediad at y manteision niferus mae coed yn eu cynnig.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle i blannu, cysylltwch ag Emma Watson yn Cadwch Gymru’n Daclus: Emma.Watson@keepwalestidy.cymru.


