Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parcio a theithio – byddwch yn siŵr o sylwi arno!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Parcio a theithio – byddwch yn siŵr o sylwi arno!
Y cyngorPobl a lle

Parcio a theithio – byddwch yn siŵr o sylwi arno!

Diweddarwyd diwethaf: November 17, 2026 1:24 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Bws
RHANNU

Os ydych chi’n defnyddio cyfleuster parcio a theithio Ffordd Rhuthun ar gyfer gemau cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam, rydych ar fin gweld rhywbeth ychydig yn wahanol…

Pan fydd y bws parcio a theithio nesaf yn cyrraedd Ffordd Rhuthun, mi fydd ar ei newydd wedd.

Parcio a theithio – byddwch yn siŵr o sylwi arno!

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr aelod arweiniol dros yr amgylchedd: “Mae’r bws parcio a theithio newydd yn edrych yn wych a hoffwn ddiolch i dîm dylunio mewnol y cyngor am greu rhywbeth sy’n gwneud i’r bws sefyll allan ar ddiwrnodau gêm, tra hefyd yn hyrwyddo’r gwasanaeth hwn i breswylwyr ledled y fwrdeistref sirol wrth iddo wneud ei waith arferol yn ystod yr wythnos.

“Bydd y galw am barcio yng nghanol y ddinas ond yn cynyddu wrth agor y safle newydd felly mae’r defnydd cynyddol o’r cyfleuster parcio a theithio, ynghyd â phrisiau rhatach Arriva ar ddiwrnodau gêm, yn gam pwysig i’r cyfeiriad cywir.”

Mae’r cyfleuster parcio a theithio wedi parhau i gael ei ddefnyddio’n dda ar gyfer pob gêm gartref Clwb Pêl-droed Wrecsam, ac ers iddo ddechrau mae wedi cludo 3,047 o deithwyr.

Cyflwynwyd y cyfleuster parcio a theithio i ddarparu parcio ychwanegol ar ddiwrnod gêm, gan leddfu’r pwysau ar feysydd parcio canol y ddinas ac yn y pen draw lleihau parcio anghyfreithlon a diystyriol yng nghanol y ddinas a’r strydoedd cyfagos.

Yn ogystal â hyn, mae hefyd yn chwarae rhan yn amcan y cyngor i leihau llygredd ac allyriadau carbon, sy’n nod llawer mwy y mae’r cyngor yn gweithio’n galed tuag ato. Mae cynyddu argaeledd a defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn gyffredinol – nid yn unig ar ddiwrnod gêm – yn chwarae rhan fawr yn hyn, a dyna pam mae’r cyngor wedi buddsoddi £650,000 yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y 12 mis diwethaf, sy’n golygu bod 232,000 o deithiau ychwanegol wedi’u gwneud yn y cyfnod hwnnw.

Ychwanegodd y Cynghorydd David A Bithell “Mae’r cyngor wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ar draws y fwrdeistref sirol ac mae gan wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus rôl bwysig i’w chwarae yn hyn o beth. Dyma pam rydyn ni wedi gwneud buddsoddiad o’r fath, sydd eisoes yn talu ar ei ganfed o ran nifer y teithwyr rydyn ni’n eu gweld.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae'n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026 Mae’n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026
Erthygl nesaf Homelink at 50 Pen-blwydd Hapus Cyswllt Cartref!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Homelink at 50
Pen-blwydd Hapus Cyswllt Cartref!
Y cyngor Fideo Pobl a lle
November 17, 2026
Mae'n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026
Mae’n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026
Digwyddiadau Y cyngor
November 17, 2026
People working in an office
Lansio rhaglen cymorth cyflogaeth newydd yn Wrecsam
Y cyngor Busnes ac addysg
November 16, 2026
Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las
Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las
Y cyngor
November 16, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Foster carers Del and Gary from Wrexham
Y cyngorPobl a lle

Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal

November 12, 2026
Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)

November 13, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
DigwyddiadauPobl a lle

Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!

November 12, 2026
telecare scam
Y cyngorPobl a lle

Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid

November 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English