Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffilm newydd Blwyddyn Darganfod – gweld beth sydd ar garreg eich drws
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Ffilm newydd Blwyddyn Darganfod – gweld beth sydd ar garreg eich drws
FideoPobl a lleY cyngor

Ffilm newydd Blwyddyn Darganfod – gweld beth sydd ar garreg eich drws

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 19, 2019 10:31 am
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Mae ffilm, lluniau a chyfres o fapiau digidol newydd sbon yn arddangos ardal Gogledd Ddwyrain Cymru wedi eu rhyddhau fel rhan o ymgyrch Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru.

Mae Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint wedi dod ynghyd i gynhyrchu’r adnodd marchnata er mwyn ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr i brofi’r rhanbarth.

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yng Nghyfarfod Masnach Blynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru ac mae’n archwilio cynnig y rhanbarth i dwristiaid gan gynnwys atyniadau allweddol fel Castell Y Waun a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte yn Wrecsam a Dyffryn Maes-glas yn Sir y Fflint ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn Sir Ddinbych.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Mae’r ffilm hon yn fan cychwyn cyfres o ffilmiau newydd byrion a fydd yn cael eu rhyddhad drwy’r flwyddyn, yn cynnwys themâu gwahanol gan gynnwys yr arfordir, cestyll, tirwedd, diwylliant, antur a Safle Treftadaeth Y Byd. Mae oriel o luniau proffesiynol wedi eu rhyddhau hefyd er mwyn ceisio denu ymweliadau newydd ac ail ymweliadau i’r ardal drwy gydol y flwyddyn.

Mae twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn economi’r rhanbarth, gyda chyfanswm effaith economaidd o £867 miliwn yn 2017 , a dros 11 miliwn o ymweliadau.

Meddai Sam Regan, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Dyma Wrecsam, “Gyda’r prif dymor twristiaeth wedi’n cyrraedd; mae’n wych gweld Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn gweithio gyda’i gilydd i lansio amrywiaeth o ddeunyddiau marchnata i arddangos y rhanbarth yn ystod y Flwyddyn Darganfod. Byddem yn annog busnesau i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddynt er mwyn creu mwy o ymwybyddiaeth o’r ardal a rhoi hwb i’r economi lleol drwy gydol y flwyddyn.”

Mae saith map digidol newydd yn archwilio amrywiaeth o leoliadau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru hefyd wedi eu cynhyrchu. Mae’r map yn cysylltu gyda Ffordd Gogledd Cymru sydd yn 75 milltir o hyd – un o dri llwybr twristiaeth a lansiwyd gan Croeso Cymru o dan y brand Ffordd Cymru. Mae’r mapiau wedi bod yn ymdrech gymunedol, gan fod busnesau wedi eu gwahodd i weithdai ar draws Gogledd Cymru i drafod eu syniadau am deithiau newydd i dwristiaid er mwyn ceisio hyrwyddo’r rhanbarth a darparu cylchdeithiau a llwybrau oddi ar Ffordd Gogledd Cymru.

Ewch i ddarganfod llwybrau newydd yr haf hwn

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Sesiynau nofio am ddim i ferched ym mhwll Plas Madoc. Sesiynau nofio am ddim i ferched ym mhwll Plas Madoc.
Erthygl nesaf Toilets Ydych chi’n defnyddio’r tai bach?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English