Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ewch i ddarganfod llwybrau newydd yr haf hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ewch i ddarganfod llwybrau newydd yr haf hwn
Busnes ac addysgY cyngor

Ewch i ddarganfod llwybrau newydd yr haf hwn

Diweddarwyd diwethaf: Mai 13, 2019 4:06 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ewch i ddarganfod llwybrau newydd yr haf hwn
RHANNU

Mae mannau sydd eisoes yn ffefrynnau gydag ymwelwyr ar draws sir Wrecsam yn ymddangos ar fap rhyngweithiol – Ffordd Cymru – sy’n hyrwyddo llwybrau twristiaeth newydd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae’r ardal yn rhan o’r Llwybr Gwyddoniaeth a Threftadaeth sy’n talu teyrnged i’r hyn sydd ar gael yma yn Wrecsam ac yn rhoi mewnwelediad rhagorol i’n gorffennol a’n dyfodol.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Bydd defnyddwyr y map yn stopio mewn mannau allweddol fel Gwaith Haearn y Bers, Castell y Waun, Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Amgueddfa Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, Tŷ Pawb, Techniquest, Pyllau Plwm y Mwynglawdd a Phrosiect Treftadaeth Brymbo.

Mae Ffordd Cymru yn rhan o deulu o dri llwybr cenedlaethol – Ffordd yr Arfordir, Ffordd Cambria a Ffordd Gogledd Cymru, sy’n eich tywys ar hyd yr arfordir, drwy wlad y cestyll ac ar draws ein perfeddwlad fynyddig. Ar hyd y llwybr mae dolenni a chysylltiadau fel y gallwch greu eich taith unigryw eich hun ar hyd Ffordd Cymru.

Gallwch weld y mapiau yma.

Mae’r llwybr hwn yn rhan o ymgyrch twristiaeth ehangach a lansiwyd gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru sydd,  gyda chymorth cyllid Croeso Cymru a’r Gronfa Ymgysylltiad Twristiaeth Rhanbarthol (RTEF) wedi gwneud ymdrechion i roi hwb i ffigyrau twristiaeth yn ystod misoedd y gaeaf.

“Yn addysgu ac yn ysbrydoli“

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygiad Economaidd ac Adfywio:  “Mae’r llwybr drwy sir Wrecsam yn ysbrydoli ac yn addysgu.  Fel ardal dwristiaeth mae gennym safleoedd o safon eithriadol, yn gyfoeth o dreftadaeth wedi’i hamgylchynu ag ardaloedd o harddwch rhyfeddol sydd yn sicr yn gwneud sir Wrecsam yn yn werth ymweld â hi.  Mae’r rhai hynny sy’n gweithio yn y Diwydiant Twristiaeth wedi croesawu’r fenter ac rwy’n siŵr eu bod yn barod i estyn croeso mawr i ymwelwyr newydd â’r ardal”

Meddai Shane Logan, Rheolwr Castell y Waun: “Yma yn y castell rydym wrth ein bodd ein bod yn awr yn rhan o Lwybr Cylchol y Gogledd Ddwyrain sydd â chyfoeth o safleoedd arwyddocaol a hyfryd i ymweld â nhw.  Rydym yn arbennig o falch o fod yn gweithio hyd yn oed yn agosach â’r cynghorau lleol a busnesau a sefydliadau eraill ar y llwybr, ac yn edrych ymlaen at groesawu a chyflwyno ymwelwyr newydd i’r ystâd.”

Mae mapiau ar gael i’w lawrlwytho o http://www.northeastwales.wales/the-north-wales-way/

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn nawdd ariannol drwy’r Gronfa Ymgysylltiad Twristiaeth Rhanbarthol (RTEF) ac yn cael ei gefnogi drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygiad Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru er mwyn gwella profiad yr ymwelydd a chreu cyrchfannau cryfach drwy gydweithio.

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/life_events_w/caring/fostering/index.htm”] DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Diogel mewn dim Diogel mewn dim
Erthygl nesaf Mae Tŷ Pawb yn cymryd rôl arweiniol mewn sioe gelf fyd-enwog Mae Tŷ Pawb yn cymryd rôl arweiniol mewn sioe gelf fyd-enwog

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English