Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sinema 73 yn Lansio’n Swyddogol yn Tŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Sinema 73 yn Lansio’n Swyddogol yn Tŷ Pawb
Busnes ac addysgPobl a lle

Sinema 73 yn Lansio’n Swyddogol yn Tŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: Awst 9, 2019 4:07 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Sinema 73 yn Lansio’n Swyddogol yn Tŷ Pawb
RHANNU

Bydd rhaglen sinema newydd sbon gan 73 Degree Films yn dechrau fis Medi.

Mae Sinema 73 yn rhaglen sinema a arweinir gan y gymuned. Bob yn ail dydd Iau rhwng mis Medi a’r Nadolig bydd Sinema 73 yn dangos ffilm wahanol, gan gynnig mynediad i sinema annibynnol a rhyngwladol, o’r clasuron i ffilmiau newydd, ynghyd â chystadlaethau ffilmiau byrion, sesiynau holi ac ateb, a mwy.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Mae 73 Degree Films yn falch o gydweithio â Chanolfan Ffilm Cymru a Chyngor Wrecsam i ddod â rhaglen sinema newydd i Wrecsam. Ers agoriad Tŷ Pawb, bu’n uchelgais fawr gennym i weithredu hyn, ac rydym yn ysu i osod y carped coch a mynd amdani fis Medi! – Robert Corcoran, Cynhyrchydd.

Mae’r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o ffilmiau a digwyddiadau, gyda rhywbeth at ddant pawb. Y ffilm agoriadol fydd ‘American Interior’ gan Gruff Rhys, gyda ffilmiau newydd i ddilyn, gan gynnwys ‘High Life’ Claire Denis a ffilm ddogfen am Aretha Franklin, sef ‘Amazing Grace’.

Bydd dangosiad arbennig o ‘28 Days Later’ ar noson Calan Gaeaf, 31 Hydref, ac ym mis Tachwedd bydd fersiwn 1954 o ‘A Star is Born’ yn serennu Judy Garland yn cael ei dangos fel rhan o Dymor Sioeau Cerdd BFI 2019.

Bydd detholiad o ffilmiau byrion yn cael eu dangos ym mhob digwyddiad fel rhan o’r rhaglen. Gall gwneuthurwyr ffilmiau gyflwyno eu ffilmiau nawr am gyfle i ennill ystod o wobrau ar filmfreeway.com/73cinema

Lluniwyd drafft terfynol y rhaglen ym mis Gorffennaf eleni gan bwyllgor o gynrychiolwyr grŵp cymunedol a sawl un sy’n ffan o ffilmiau!

Mae Tocynnau i bob digwyddiad ar gael i’w prynu nawr ar 73cinema.com. Fel arall, mae modd eu prynu wrth y drws (yn amodol ar argaeledd) neu eu cadw yn siop Tŷ Pawb. Mae tocyn tymor llawn ar gael hefyd, gan ganiatáu i’r sawl sydd eisiau mynd i bopeth arbed 25%.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Digonedd yn digwydd yr haf hwn yn ein parciau gwledig Digonedd yn digwydd yr haf hwn yn ein parciau gwledig
Erthygl nesaf Amser chwarae! Cannoedd yn mynychu lansiad arddangosfa newydd Tŷ Pawb ... Amser chwarae! Cannoedd yn mynychu lansiad arddangosfa newydd Tŷ Pawb …

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English