Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canmoliaeth i dîm Tŷ Pawb ar ôl llwyddiant aml-wobr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Canmoliaeth i dîm Tŷ Pawb ar ôl llwyddiant aml-wobr
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Canmoliaeth i dîm Tŷ Pawb ar ôl llwyddiant aml-wobr

Diweddarwyd diwethaf: Medi 25, 2019 6:14 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Canmoliaeth i dîm Tŷ Pawb ar ôl llwyddiant aml-wobr
RHANNU

Mae’r tîm y tu ôl i ddyluniad Tŷ Pawb wedi eu canmol ar ôl ennill tair gwobr anrhydeddus mewn dim ond deufis.

Cynnwys
  • “Mae gan Wrecsam nawr gyfleuster diwylliannol sydd wedi ennill sawl gwobr”
  • Beth ddywedodd y beirniaid
  • Gwyliwch y fideo

Ar ôl derbyn y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, fe dderbyniodd Tŷ Pawb, a ddyluniwyd gan y penseiri Featherstone Young, ddwy wobr arall yng ngwobrau’r Architects’ Journal Retrofit Awards 2019, a gynhaliwyd yn Llundain yn gynharach yn y mis.

Yn ogystal ag ennill y categori ‘Adeiladau Diwylliannol o dan £5 miliwn’ fe drechodd Tŷ Pawb y gystadleuaeth o gyfeiriad y 137 arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol i ennill gwobr fwya’r noson – gwobr yr Architects’ Journal Retrofit of the Year.

Mae rhaglen flynyddol gwobrau’r Architects’ Journal Retrofit Awards yn un o’r rhai uchaf eu bri o fewn pensaernïaeth ym Mhrydain ac mae’n dathlu’r rhagoriaeth o ran dyluniad, peirianneg ac adeiladwaith sy’n ymestyn ac yn gwella oes ein byd adeiledig.

Ymunodd Sarah Featherstone, o Featherstone Young, ag aelodau o dîm Tŷ Pawb wrth i’r Cyngor Llawn eu llongyfarch am y gwobrau ddydd Mercher.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON

Canmoliaeth i dîm Tŷ Pawb ar ôl llwyddiant aml-wobr

“Mae gan Wrecsam nawr gyfleuster diwylliannol sydd wedi ennill sawl gwobr”

Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Rob Walsh: “Nid yw’n syndod bod y sgil bensaernïol a roddodd Featherstone Young yn y prosiect hwn wedi’i chydnabod ar lefel genedlaethol, a gall Wrecsam fod yn falch iawn o’r hyn y mae Tŷ Pawb wedi’i gyflawni – yn enwedig yng nghyd-destun diwylliant Cymru.

“Nid y dyluniad yn unig sy’n cyflawni’r cynwysoldeb hwn, ond hefyd y ffordd y mae’r adeilad yn gweithredu a’r dull cadarnhaol a gymerir gan ein gweithwyr, masnachwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, y Cyng. Hugh Jones: “Mae’n rhoi boddhad mawr i weld y gwaith caled eithriadol a wnaed o ran sicrhau fod dyluniad Tŷ Pawb yn cael ei gydnabod ar y llwyfan cenedlaethol.

“Mae trawsnewid hen neuadd farchnad a maes parcio i fod yn ganolfan fodern, fywiog fel y mae heddiw yn gamp ragorol.

“Diolch i weledigaeth a chreadigrwydd anhygoel y tîm dylunio mae gan Wrecsam nawr gyfleuster diwylliannol sydd wedi ennill sawl gwobr ac sydd wedi ei adeiladau am ffracsiwn o’r gost o ddatblygu canolfan fel hyn o’r newydd.”

“Llongyfarchiadau enfawr i’r tîm, mae’r wobr yn un haeddiannol iawn.”

Dywedodd Sarah Featherstone (Penseiri Featherstone Young) “Mae hon yn wobr bwysig sy’n cydnabod gwerth ailddefnyddio adeiladau.

“Mae Tŷ Pawb wedi adfywio adeilad cyhoeddus nad oedd yn cael ei ddefnyddio ddigon ac wedi cyflwyno model arbrofol newydd sy’n cyfuno celf gydag amrediad o weithgareddau. Hoffem feddwl fod hyn wedi gwneud celf yn fwy defnyddiol ac yn fwy hygyrch i bobl yn Wrecsam yn ogystal â datblygu lle gyda phroffil cenedlaethol cryf.

“Mae bod wedi ennill y wobr yn wych a bod Tŷ Pawb wedi cael y gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth hon.”

Beth ddywedodd y beirniaid

Disgrifiodd beirniaid yr Architects’ Journal Tŷ Pawb fel “enghraifft wirioneddol arloesol o ôl-osod”.

Disgrifiodd golygydd pensaernïol yr Architects’ Journal, Rob Wilson, y prosiect buddugol fel: “Trawsnewidiad ysbrydoledig o adeilad cyhoeddus sylweddol, gan ddefnyddio dulliau rhesymol, nid dim ond yn nhermau ei gyllideb ond yng nghyffyrddiad ysgafn yr ymyrraeth bensaernïol.

Canmolodd y beirniaid y berthynas gydweithio gref gyda’r cleient yn benodol. ‘Mae’r hyn sydd wedi ei gyflawni o ran yr adeilad hwn o ddechrau mor anaddawol yn anhygoel,’ meddai un. ‘Mae’n enghraifft o brosiect sydd bron fel pe bai’n ymhyfrydu ei fod wedi ei wneud gyda chyllideb dynn,’ meddai un arall. ‘Mae’n gwneud datganiad gwleidyddol gwirioneddol ac yn ticio’r holl flychau o ran y meini prawf ar gyfer gwaith ôl-osod gwych.’

Gwyliwch y fideo

Mae Architect’s Journal wedi creu’r fideo bach gwych hwn i arddangos yr adeilad buddugol. Cymerwch gip …

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

Rhannu
Erthygl flaenorol Clwb Sgwrsio Clwb Sgwrsio
Erthygl nesaf Llwyth o weithgareddau ar gael ar Diwrnod Pobl Hŷn yn Tŷ Pawb Llwyth o weithgareddau ar gael ar Diwrnod Pobl Hŷn yn Tŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 17, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English