Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd y swydd TGCh hon yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Efallai y dylech fynd amdani?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Bydd y swydd TGCh hon yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Efallai y dylech fynd amdani?
Arall

Bydd y swydd TGCh hon yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Efallai y dylech fynd amdani?

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 9, 2020 10:58 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Digital hero
RHANNU

Er eich bod yn gweithio mewn TGCh nid yw hynny’n golygu mai gweithio yn Silicon Roundabout Llundain yw’r swydd o’ch breuddwydion :-/

Cynnwys
  • Prosiect cyffrous
  • Y sgiliau sydd gennym mewn golwg…
  • Gyrfa sy’n talu + chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • Sut i wneud cais

Os ydych yn weithiwr TGCh proffesiynol talentog a chreadigol ac yn chwilio am waith sydd ddim yn golygu treulio oriau mewn traffig trwm bob bore i gyrraedd yno, yna mae’n bosib iawn bod eich swydd nesa’ yn agosach i adref nag oeddech chi’n feddwl.

Fel y mae’n digwydd rydym yn chwilio am Uwch Ddadansoddwr Technegol i’n helpu i ofalu am weinyddion a diogelwch ein hysgolion.

Oes gennych chi ddiddordeb? Darllenwch fwy…

Prosiect cyffrous

Ym mis Gorffennaf 2019 fe gyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg yng Nghymru raglen cyllido gwerth £50m tuag at TGCh mewn ysgolion.

Bydd Rhaglen Trawsnewid Hwb yn newid y dirwedd o dechnoleg addysgol, ac os byddwch yn ymuno â’r tîm byddwch yn helpu i ddarparu isadeiledd digidol newydd ar gyfer 70 o ysgolion yn Wrecsam.

Bydd miloedd o bobl ifanc yn elwa o’r prosiect cyffrous hwn; byddwch yn gweithio ar-safle mewn ystafell ddosbarth prysur un diwrnod, ac yn cyflwyno atebion arloesol yn yr ystafell fwrdd ar ddiwrnod arall.

Mae hi felly’n rôl amrywiol a chreadigol sydd yn siŵr o roi boddhad swydd i chi.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://saas.zellis.com/wrexham/wrl/pages/vacancy.jsf?latest=01003762&language=cy”]GWNEWCH GAIS RŴAN[/button]

Y sgiliau sydd gennym mewn golwg…

Fel uwch aelod o’r tîm byddwch yn arwain ar lefel uchel o arbenigedd technegol ar weinyddwyr, LAN, diogelwch, cyflenwad wrth gefn a gwasanaethau cyfeiriadur gweithredol.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am wneud ymchwil ac argymell y prif gynnyrch a thechnolegau.

Wrth gwrs rhaid i chi feddu ar y profiad a’r cymwysterau priodol. Ond (ac mae hyn yn hynod o bwysig) byddwch hefyd yn frwdfrydig ac yn gallu rheoli eich amser.

Gyrfa sy’n talu + chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru, Caer, yr Amwythig neu Gilgwri, mae’n debyg eich bod o fewn pellter teithio rhwydd (mae gan Wrecsam gysylltiadau ffordd a rheilffordd dda iawn).

Ac os ydych yn chwilio am y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yna mae digonedd o resymau i wneud cais.

Er enghraifft, mae ein cynllun gweithio’n hyblyg yn golygu y gallwch gamu i ffwrdd o’r oriau 9 tan 5 arferol a gorffen yn gynt un diwrnod ac yn hwyrach ddiwrnod arall. Y bwriad yw darparu gwasanaethau ac ymateb i ofynion ein hysgolion….ond mae’r hyblygrwydd yn gweithio’r ddwy ffordd.

Byddwch hefyd yn derbyn lwfans gwyliau hael, mynediad i gynllun pensiwn da a buddion gweithwyr eraill.

Sut i wneud cais

Mae’r dyddiad cau i wneud cais ar 13 Mawrth (2020). Felly os oes gennych ddiddordeb ymuno â ‘Thîm Wrecsam’ yna ewch amdani.

Am fwy o wybodaeth, yn cynnwys manylion cyswllt am sgwrs anffurfiol ar y swydd ewch i’n gwefan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://saas.zellis.com/wrexham/wrl/pages/vacancy.jsf?latest=01003762&language=cy”]GWNEWCH GAIS RŴAN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cau rhannau o Lyfrgell Wrecsam am gyfnodau byr Cau rhannau o Lyfrgell Wrecsam am gyfnodau byr
Erthygl nesaf Ruabon Station Siom ynghylch Mynediad i Bobl Anabl yng Ngorsaf Rhiwabon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English