Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hyfforddiant ar-lein wedi’i lansio i helpu i amddiffyn busnesau rhag sgamiau Covid-19
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Hyfforddiant ar-lein wedi’i lansio i helpu i amddiffyn busnesau rhag sgamiau Covid-19
Arall

Hyfforddiant ar-lein wedi’i lansio i helpu i amddiffyn busnesau rhag sgamiau Covid-19

Diweddarwyd diwethaf: Mai 1, 2020 2:36 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
laptop
RHANNU

Mae Safonau Masnach Cenedlaethol wedi lansio pecyn hyfforddiant Businesses Against Scams er mwyn helpu i amddiffyn busnesau, gweithwyr a chwsmeriaid rhag sgamiau costus.

Wrth i fusnesau orfod newid neu roi’r gorau i’w harferion masnachu, mae troseddwyr yn achub ar y cyfle i dargedu gweithwyr sy’n gweithio o adref ac yn ynysu oddi wrth eu cydweithwyr.

Mae nifer o sgamiau diweddar wedi gweld troseddwyr yn smalio bod yn swyddogion ac uwch weithwyr o’r llywodraeth er mwyn rhoi pwysau ar weithwyr i ddarparu gwybodaeth sensitif neu i wneud taliadau.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Gyda’r risg cynyddol hwn, mae Safonau Masnach Cenedlaethol yn annog busnesau i ddefnyddio Businesses Against Scams.

Dywedodd Louise Baxter, Pennaeth Tîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol: “Mae troseddwyr yn achub ar bob cyfle posibl i dwyllo pobl ddiniwed. Byddant yn parhau i geisio camfanteisio ar yr argyfwng cenedlaethol hwn o bob ongl ac rydym am sicrhau bod busnesau yn barod amdanyn nhw. Rydym wedi lansio Businesses Against Scams fel pecyn gwaith am ddim i helpu sefydliadau i amddiffyn eu busnes, eu staff a’u cwsmeriaid.”

Dywedodd yr Arglwydd Toby Harris, Cadeirydd Safonau Masnach Cenedlaethol: “Mae Covid-19 wedi rhoi cyfleoedd newydd i droseddwyr ecsbloetio busnesau. Maen nhw’n arbenigwyr ar ddynwared pobl, busnesau a’r heddlu. Maen nhw’n treulio oriau yn ymchwilio i fusnesau ar gyfer eu sgamiau yn y gobaith y gallant ddal gweithwyr allan. Mae’n rhaid i fusnesau fod yn wyliadwrus bob amser. Peidiwch â brysio, cymerwch ofal a heriwch bob tro.

“Mae menter Businesses Against Scams yn grymuso busnesau a’u gweithwyr i wrthsefyll sgamiau trwy eu harfogi â’r cyngor a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i adnabod ac atal sgamiau.”

Gall busnesau ymgymryd â’r hyfforddiant a chofrestru ar www.friendsagainstscams.org.uk/BAS

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol egniol Byddwch yn Egnïol ac yn Greadigol gyda Her Wythnosol Wrecsam Egnïol!
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 1.5.20

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English