Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen E-bost sgam Netflix yn gofyn i chi ddiweddaru eich manylion – peidiwch â chael eich dal allan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > E-bost sgam Netflix yn gofyn i chi ddiweddaru eich manylion – peidiwch â chael eich dal allan
Arall

E-bost sgam Netflix yn gofyn i chi ddiweddaru eich manylion – peidiwch â chael eich dal allan

Diweddarwyd diwethaf: Medi 25, 2020 4:51 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Someone watching Netflix at home
RHANNU

Mae Safonau Masnach Wrecsam wedi dod i wybod am negeseuon e-bost sgam, sy’n honni eu bod yn cysylltu ar ran Netflix, yn gofyn i bobl ddiweddaru eu gwybodaeth filio bresennol.

Cynnwys
  • Peidiwch â gwneud hyn – sgam yw’r neges hon!
  • “Peidiwch â chael eich dal”
  • Rhywfaint o gyngor
  • Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus
  • Adrodd am drosedd seiber
  • Cyngor cyffredinol ar sgamiau

Mae’r neges e-bost, sy’n defnyddio logo Netflix, yn nodi; “yn anffodus, ni allwn gymeradwyo eich taliad am eich cylched tanysgrifio nesaf”, yna mae’n gofyn i chi ddiweddaru eich gwybodaeth talu gan wasgu’r botwm isod.

Peidiwch â gwneud hyn – sgam yw’r neges hon!

Byddwch yn ymwybodol o’r sgam hwn a pheidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni o fewn y neges e-bost.

Dyma’r diweddaraf o nifer o negeseuon sgam sy’n mynd o gwmpas ar hyn o bryd. Rhoddwyd gwybod i chi yn ddiweddar am y neges sgam DVLA sydd hefyd wedi dod i sylw Safonau Masnach Wrecsam.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

“Peidiwch â chael eich dal”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Peidiwch â chael eich dal, a byddwch yn wyliadwrus iawn wrth gyflwyno unrhyw wybodaeth bersonol. Cymerwch yr amser rydych chi ei angen bob amser i ganfod a allai rhywbeth fod yn sgam. Os ydych chi’n dal i fod yn ansicr, cysylltwch â’r brand neu’r cwmni yn uniongyrchol.”

Rhywfaint o gyngor

Mae’n bwysig iawn dilyn y tri cham hyn wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chi wario’ch arian neu ddarparu’ch gwybodaeth bersonol:

STOPIO – Gall cymryd munud neu ddwy i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff.

HERIO – Ydi’r cynnig yn un go iawn? Mae gennych chi berffaith hawl gwrthod neu anwybyddu unrhyw gais. Dim ond troseddwyr fydd yn eich rhuthro neu’n gwneud i chi ddychryn.

AMDDIFFYN – Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’ch twyllo cysylltwch â’ch banc yn syth a rhowch wybod i Action Fraud.

Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus

Creodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol (NCSC), Wasanaeth i Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus, sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl anfon unrhyw negeseuon e-bost amheus atynt.

Yna bydd yr NCSC yn dadansoddi’r e-bost ac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’r neges.

Os ydych wedi derbyn e-bost yr ydych yn teimlo’n ansicr yn ei gylch, gallwch ei anfon ymlaen at y Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus trwy’r cyfeiriad e-bost report@phishing.gov.uk

Adrodd am drosedd seiber

Os ydych chi’n credu eich bod wedi bod yn ddioddefwr sgâm neu drosedd seiber, dylech adrodd am hyn i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Action Fraud yw’r Canolfan Cenedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throsedd Seiber yn y DU.

Cyngor cyffredinol ar sgamiau

Gellir cael Cyngor i Ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).

Gwyliwch rhag e-bost sgam DVLA yn gofyn ichi ddiweddaru manylion

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Pubs Tafarndai i roi’r gorau i weini alcohol am 10pm
Erthygl nesaf How to wear a face covering Sut i wisgo gorchudd wyneb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
North Wales Police in Wrexham city centre
Arall

Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn

Gorffennaf 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English