Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut i wisgo gorchudd wyneb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sut i wisgo gorchudd wyneb
Y cyngor

Sut i wisgo gorchudd wyneb

Diweddarwyd diwethaf: Medi 25, 2020 5:45 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Mae gorchudd wyneb yn gallu helpu i ddiogelu chi ac eraill rhag y coronafeirws.

Mae dau fath o orchudd wyneb – gorchudd rydych yn ei ailddefnyddio a gorchudd rydych yn ei ddefnyddio unwaith yn unig.

Mae gorchuddion wyneb rydych yn eu hailddefnyddio yn well i’r amgylchedd – ond mae angen o leiaf dair haen o gotwm tyn ei wead ynddo, gan nad yw deunyddiau fel sidan yn diogelu.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Ond sut mae gwisgo un yn ddiogel?

Dyma sut…

Cyn rhoi’r gorchudd wyneb ymlaen, golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo i ladd unrhyw germau.

Nawr mae’n ddiogel ichi wisgo’ch gorchudd wyneb.

Yn gyntaf, mae angen sicrhau bod eich gorchudd wyneb y ffordd iawn i’w roi ymlaen.

Yna, gan ddal y strapiau yn unig, codwch ef at eich wyneb a’i osod y tu ôl i’ch clustiau neu’ch pen, gan ddibynnu ar y math o orchudd.

Dylai’ch gorchudd wyneb estyn o uwchben eich trwyn i o dan eich gên a dylai fod yn dynn ar eich wyneb heb fylchau.

Ar ôl ei roi ymlaen, gwnewch yn siŵr nad yw’n llithro o dan eich trwyn na’ch ceg, a pheidiwch â’i gyffwrdd â’ch dwylo.

I dynnu’r gorchudd wyneb, golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio.

Yna, gan ddefnyddio’r strapiau eto, tynnwch ef oddi ar eich wyneb.

Peidiwch â chyffwrdd y gorchudd ei hun gan y gallai fod wedi’i heintio.

Dylid cael gwared yn ddiogel â gorchuddion wyneb untro, a dylai’r rhai rydych yn eu hailddefnyddio gael eu golchi yn syth ar ôl ichi gyrraedd adref.

Ewch â bag plastig bach gyda chi i roi’ch gorchudd wyneb ynddo ar ôl ei dynnu hyd nes y byddwch yn cyrraedd adref.

Yn olaf, golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio unwaith eto.

Dilynwch y camau hyn i wneud eich gorchudd wyneb mor effeithiol â phosibl.

Mae fy ngorchudd wyneb i yn diogelu chi ac mae’ch gorchudd wyneb chi yn diogelu fi.

Diogelu’ch hun ac eraill.

Diogelu Cymru gyda’n gilydd.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Someone watching Netflix at home E-bost sgam Netflix yn gofyn i chi ddiweddaru eich manylion – peidiwch â chael eich dal allan
Erthygl nesaf year 6 A yw eich plentyn newydd ddechrau ym Mlwyddyn 6?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English