Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pam ein bod angen cyfyngiadau ychwanegol yn Wrecsam: cynnydd sylweddol mewn achosion o Covid mewn 48 awr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Pam ein bod angen cyfyngiadau ychwanegol yn Wrecsam: cynnydd sylweddol mewn achosion o Covid mewn 48 awr
ArallPobl a lle

Pam ein bod angen cyfyngiadau ychwanegol yn Wrecsam: cynnydd sylweddol mewn achosion o Covid mewn 48 awr

Diweddarwyd diwethaf: 2020/10/01 at 4:54 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Covid-19
RHANNU

Mae ffigurau heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod yr achosion yn Wrecsam wedi cynyddu o 33.1 achos fesul 100,000 o’r boblogaeth ar ddydd Mawrth i 59.6 achos fesul 100,000 o’r boblogaeth erbyn heddiw.

Mae’r ffigurau yma’n seiliedig ar gyfnod treigl o saith diwrnod ac maent yn dangos cynnydd sylweddol mewn 48 awr.

Nid niferoedd ar siart sydd gennym mewn golwg yma. Mae’r ffigurau yma’n cynrychioli pobl go iawn yn ein cymuned, ac yn anffodus mae yna siawns y gallai rhai ohonynt fod yn sâl iawn.

Mae hyn yn tanlinellu pam mai cyflwyno cyfyngiadau lleol ychwanegol yn Wrecsam am 6pm heno yw’r peth cywir i wneud.

Cyfyngiadau ychwanegol i helpu yn y frwydr yn erbyn ‘ail don’ yng ngogledd Cymru

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Mae’r duedd ar i fyny yn ddifrifol, ac mae’r ffigurau – sy’n seiliedig ar gyfnod treigl o saith diwrnod – yn dangos unwaith eto fod Wrecsam wedi gwneud y peth cywir yn gweithredu’n gyflym a chyflwyno cyfyngiadau ychwanegol…ynghyd â Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy.

“Mae nifer o bobl yn teimlo’n rhwystredig am y mesurau ychwanegol a fydd yn dod i rym heno, ac rydw i’n deall hynny’n iawn. Mae’r byd yn le eithaf anodd ar hyn o bryd…mae pawb wedi blino ac rydym ni eisiau i bethau fynd yn ôl i normal.

“Ond mae’r data a’r wyddoniaeth yn dangos ein bod angen cyfyngiadau ychwanegol os ydym ni am reoli’r feirws unwaith eto yn Wrecsam. Nid oes gennym unrhyw ddewis.
“Felly unwaith eto, rydw i’n annog pob un ohonom i ddilyn y rheolau a chadw atynt.

“Yn fwy na hynny, rwy’n gofyn i bawb wneud y peth cywir, a gwneud popeth y gallant i atal y feirws rhag lledaenu.

“Mae’n golygu gwneud ein gorau i ddiogelu pobl eraill…yn cynnwys y bobl rydym ni’n eu caru.”

Mae manylion llawn y cyfyngiadau yn Wrecsam ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y prif newidiadau a ddaw i rym am 6pm heno yw:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn na gadael y Sir heb esgus rhesymol…megis teithio ar gyfer gwaith neu addysg.
  • Os ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, dim ond y tu allan y bydd modd i chi gwrdd â phobl nad ydych chi’n byw â nhw. Ni fydd modd i chi fod yn rhan o aelwyd estynedig (a elwir weithiau yn ‘swigen’).

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol ty pawb open CYHOEDDIAD: Arddangosfa sy’n Dathlu Creadigrwydd yn ystod y Cyfnod Cloi-i-lawr.
Erthygl nesaf Local Lockdown Cyfnod Clo Lleol yn Wrecsam – beth sydd angen ei wybod os ydych yn bwriadu bwyta allan neu ymweld â’ch tafarn lleol

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor Awst 13, 2025
Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall Awst 12, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Cycling
DigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n hyderus yn beicio?

Awst 13, 2025
Landlords
Arall

Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam

Awst 12, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English