Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor yn ymateb i’r ymgynghoriad ar wasanaeth rheilffyrdd Fanceinion
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyngor yn ymateb i’r ymgynghoriad ar wasanaeth rheilffyrdd Fanceinion
ArallBusnes ac addysg

Cyngor yn ymateb i’r ymgynghoriad ar wasanaeth rheilffyrdd Fanceinion

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 9, 2021 2:07 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Rail track
RHANNU

Fel cyngor, rydym wedi ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus a gynhelir gan Dasglu Adfer Manceinion (Manchester Recovery Task Force (MRTF).

Mae MRTF wedi datblygu tri opsiwn i newid y gwasanaethau trenau wedi’u hamserlennu i deithwyr a nwyddau mewn ymgais i wella perfformiad y rhwydwaith rheilffordd yn ardal Manceinion.

Bydd y newidiadau hyn i’r amserlen yn effeithio ar drigolion Wrecsam a gogledd Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaethau trenau er mwyn teithio i neu drwy Fanceinion (yn cynnwys Maes Awyr Manceinion).

  • Opsiwn A – byddai gwasanaethau o ogledd Cymru i Fanceinion yn cael eu dargyfeirio i wasanaethu gorsafoedd Manceinion Victoria a Stalybridge. Byddai hyn yn cael gwared ar y gwasanaethau uniongyrchol rhwng gogledd Cymru a Maes Awyr Manceinion, ac ni fyddai’r trenau’n stopio yng ngorsafoedd Manceinion Piccadilly ac Oxford Road.
  • Opsiwn B – byddai’r opsiwn hwn yn cadw’r gwasanaethau presennol rhwng gogledd Cymru a Maes Awyr Manceinion / Manceinion Piccadilly.
  • Opsiwn C – byddai’r gwasanaethau o ogledd Cymru i Fanceinion yn cael eu dargyfeirio i “Lein Canol Swydd Gaer”. Byddai hyn yn cael gwared ar y gwasanaethau uniongyrchol rhwng gogledd Cymru a Maes Awyr Manceinion, gyda’r gwasanaeth yn galw yn y gorsafoedd canlynol i’r dwyrain o Gaer yn unig: Northwich, Knutsford, Altrincham a Manceinion Piccadilly.

Yn rhinwedd ei swydd fel Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, mae’r Cynghorydd David Bithell wedi ysgrifennu at MTRF gan ddweud, “Yr unig ganlyniad sy’n dderbyniol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw cadw’r gwasanaethau uniongyrchol gan Drafnidiaeth Cymru i Faes Awyr Manceinion, fel a nodir yn Opsiwn B.

“Rwy’n ymwybodol fod Trafnidiaeth Cymru wedi cysylltu â thîm MRTF ac yn deall y bydd Opsiynau A ac C yn cynyddu amseroedd teithio i deithwyr sy’n teithio rhwng gogledd Cymru a Maes Awyr Manceinion, ac yn debygol o arwain at berfformiad gwaeth i gymudwyr gogledd Cymru.”

Gellir gweld yr ymgynghoriad, sy’n agored tan 10 Mawrth, yma.

Rhannu
Erthygl flaenorol Illegal Tobacco Y Cyngor yn annog trigolion i roi gwybod am droseddau tybaco anghyfreithlon i Crimestoppers
Erthygl nesaf Recycling A ydych yn defnyddio Canolfan Ailgylchu y Lodge Brymbo?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English