Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd yn Ailgylchwr Gwych a helpu Cymru i gyrraedd y brig – 8 GAIR O GYNGOR
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Bydd yn Ailgylchwr Gwych a helpu Cymru i gyrraedd y brig – 8 GAIR O GYNGOR
Y cyngor

Bydd yn Ailgylchwr Gwych a helpu Cymru i gyrraedd y brig – 8 GAIR O GYNGOR

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 16, 2021 10:40 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Bydd yn Ailgylchwr Gwych a helpu Cymru i gyrraedd y brig – 8 GAIR O GYNGOR
RHANNU

Mae dinasyddion Cymru ar flaen y gad gyda’n hailgylchu gwych. A dweud y gwir, ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu. Ond mae arnom angen eich help chi i gyrraedd rhif un.

Cynnwys
  • 1. Os yw wedi’i wneud o blastig, ac yn siâp potel, ailgylcha ef
  • 2. Rhoi rinsiad cyflym iddo
  • 3. Ailgylcha ganiau erosol o bob ystafell
  • 4. Ailgylcha dy holl wastraff bwyd
  • 5. Tynna’r bwyd oddi ar ddeunydd pacio wedi’i wneud o gardbord
  • 6. Defnyddia’r prawf crychu
  • 7. Cofia ei wasgu
  • 8. Os nad wyt ti’n siŵr, gwiria

Mae mwy na 90% ohonon ni’n ailgylchu’n rheolaidd, ond gyda’n hanner ni yn dal i fethu ailgylchu popeth posibl, mae mwy y gallwn ei wneud. Pe bai pob un ohonom yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu dim ond un peth ychwanegol bob dydd, byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr.

Bydd yn ailgylchwr gwych, gwarchod y blaned a helpu Cymru i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu drwy wneud y canlynol:

1. Os yw wedi’i wneud o blastig, ac yn siâp potel, ailgylcha ef

Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ailgylchu. Mewn gwirionedd, mae mwy nag 88% ohonon ni’n ailgylchu poteli plastig fel poteli diodydd, nwyddau glanhau a nwyddau ymolchi. Cofia’i wagio, ei wasgu a rhoi’r caead yn ôl arno cyn ei ailgylchu. Gellir gadael y chwistrell ar boteli glanhau.

2. Rhoi rinsiad cyflym iddo

Cofia rinsio potiau, tybiau a chynwysyddion yn gyflym cyn eu hailgylchu; gan gofio tynnu unrhyw haenau plastig. Does dim angen eu golchi’n drylwyr, ac mae eu rhoi yn y peiriant golchi llestri’n mynd dros ben llestri – ac yn gwastraffu ynni!

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

3. Ailgylcha ganiau erosol o bob ystafell

Gellir ailgylchu metelau ailgylchadwy fel caniau erosol dro ar ôl tro heb i ansawdd y deunydd ddirywio. Cofia ailgylchu’r caniau erosol gwag o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi, fel chwistrell gwallt, diaroglydd a gel eillio. Mae ailgylchu cyn lleied â dau gan erosol yn arbed digon o ynni i bweru set DJ am un awr.

Mae 73% o bobl Cymru’n ailgylchu eu caniau aerosol gwag. https://t.co/En3e9k7c5e #ByddWychAilgylcha pic.twitter.com/tIwAuHtUqw

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 15, 2021

4. Ailgylcha dy holl wastraff bwyd

Er bod 80% ohonon ni’n ailgylchu ein gwastraff bwyd, mae rhywfaint o fwyd yn dal i gyrraedd y bin sbwriel. Cofia bod modd ailgylchu gwastraff fel gwaddodion coffi, plisg wyau, esgyrn a chrafion llysiau a ffrwythau.

5. Tynna’r bwyd oddi ar ddeunydd pacio wedi’i wneud o gardbord

Tynna ddarnau o fwyd oddi ar ddeunydd pacio o bapur a chardbord cyn eu hailgylchu. Er enghraifft, galli gynnwys y bocs pitsa, ond iti wneud yn siŵr bod unrhyw fwyd wedi cael ei dynnu oddi arno.

6. Defnyddia’r prawf crychu

Ansicr a ellir ailgylchu darn o bapur? Rho gynnig ar ei grychu yn dy law. Os nad yw’n bownsio’n ôl, yna gellir ei ailgylchu. Mae hwn yn brawf da i’w wneud gyda phapur lapio. Ac os wyt ti am ailgylchu cardiau pen-blwydd, rhwyga unrhyw ddarnau gyda llwch llachar arno i ffwrdd yn gyntaf.

Amdani i gael Cymru i rif 1. https://t.co/7nCwOehim6 #ByddWychAilgylcha pic.twitter.com/yqjSupsohq

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 12, 2021

7. Cofia ei wasgu

Gwasga boteli plastig gyflym – mi wnaiff hynny arbed lle yn dy gynhwysydd ailgylchu a’u gwneud yn fwy effeithlon i’w cludo. Gwasga eitemau ffoil at ei gilydd yn ysgafn i’w helpu i fynd drwy’r broses ddidoli heb fynd ar goll.

8. Os nad wyt ti’n siŵr, gwiria

Os nad wyt ti’n siŵr os, sut, neu ymhle y galli ailgylchu eitem, galli edrych ar Leolydd Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu yn https://walesrecycles.org.uk/cy/lleoliad-ailgylchu-1. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw rhoi dy god post i mewn a bydd yr ateb yn ymddangos.

Galli ddysgu mwy am yr ymgyrch gwych i helpu Cymru i gyrraedd y brig ar y wefan www.byddwychailgylcha.org.uk

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol LFD Testing Dychwelyd i’r ysgol i ddisgyblion uwchradd: Mygydau wyneb a Phrofion Dyfais Llif Unffordd
Erthygl nesaf Nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd - 16 Mawrth 2021 Nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd – 16 Mawrth 2021

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English