LFD Testing

Rydym i gyd yn edrych ymlaen i’n disgyblion cynradd, cyfnod allweddol 4 a chweched dosbarth ddychwelyd i’r ysgol ond mae’n bwysig cofio y dylai bob disgybl uwchradd wisgo mygydau yn y dosbarth ac ardaloedd cymunedol ble nad yw’n bosib cadw pellter cymdeithasol.

Yr eithriad yw yn ystod amser bwyd a phan fyddant y tu allan, oni bai bod asesiad risg yr ysgol yn dangos bod angen mesurau ychwanegol, e.e. ar iard ysgol lle mae nifer fawr o ddysgwyr mewn lle cymharol fach heb fedru gwahanu grwpiau cyswllt (megis wrth aros i fynd i mewn i’r ysgol).

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Bydd gwisgo mygydau yn helpu i leihau lledaenu Covid-19 yn ein hysgolion.

Dylai unrhyw ddisgybl sy’n teithio ar gludiant ysgol hefyd wisgo mwgwd wyneb wrth deithio.

Profion LFD mewn ysgolion uwchradd

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi y bydd profion llif unffordd rheolaidd, gwirfoddol, dwywaith yr wythnos ar gael i ddisgyblion hŷn mewn ysgolion uwchradd a’r holl staff addysgu ac mae’r rhain yn cael eu dosbarthu i ysgolion ledled Cymru.

Bydd y profion ar gael i ddechrau i flynyddoedd 10, 11 a 13 ac yn lleihau’r risg o ledaeniad asymptomatig.

Ni ddylai unrhyw un sy’n cael prawf positif gan ddefnyddio Prawf Llif Unffordd fynychu’r ysgol neu leoliad. Rhaid iddyn nhw a phawb sy’n byw gyda nhw hunan-ynysu yn syth (canllawiau hunan-ynysu) wrth wneud y canlynol:

  • nodi canlyniad y prawf ar-lein
  • trefnu prawf PCR dilynol trwy borth archebu ar-lein
  • hysbysu eu hysgol ynghylch y canlyniad

Mae mwy o wybodaeth ar fanylder penodol y prosesau’n cael eu gorffen gan ysgolion a fydd mewn cysylltiad â rhieni’n uniongyrchol pan fyddant yn barod.

Byddwch yn wyliadwrus

Er mwyn i ddisgyblion uwchradd gael dysgu wyneb yn wyneb gofynnir i rieni a gofalwyr:

  • fod yn wyliadwrus
  • cadw pellter wrth giatiau’r ysgol
  • ceisio dylanwadu ar eu plant i beidio â chymysgu yn gymdeithasol tu allan i’r ysgol
  • peidio ag anfon dysgwyr i’r ysgol os ydynt yn sâl, os oes ganddynt symptomau neu wedi cael prawf Covid-19 positif.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Rydym i gyd yn cydnabod yr angen i ddisgyblion fynd yn ôl i’r ysgol cyn gynted â phosib, ond rhaid i ni hefyd gydnabod bod y Feirws dal yn ein cymunedau. Sicrhewch fod eich plentyn yn gwisgo mwgwd wyneb pan fo angen ac yn cymryd rhan yn y broses profion LFD os ydynt mewn ysgol uwchradd. Bydd adnabod profion asymptomatig yn gostwng lledaeniad y Feirws a’n helpu ni gyd i ddychwelyd i normal cyn gynted â phosib.

“Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl ddisgyblion, gofalwyr a staff am eu hymroddiad yn ystod y misoedd anodd hyn.”

😷 Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru 👈

CANFOD Y FFEITHIAU