Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gofynnir i berchnogion cŵn fod yn feddylgar pan nad yw eu cŵn ar dennyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gofynnir i berchnogion cŵn fod yn feddylgar pan nad yw eu cŵn ar dennyn
Pobl a lleY cyngor

Gofynnir i berchnogion cŵn fod yn feddylgar pan nad yw eu cŵn ar dennyn

Diweddarwyd diwethaf: 2021/05/17 at 4:24 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Dog O
RHANNU

Rydym yn genedl o rai sy’n caru anifeiliaid ac o ganlyniad i’r pandemig gwelwyd cynnydd aruthrol yn nifer y rhai sy’n berchen ar anifeiliaid anwes, yn enwedig cŵn.

Gyda pherchnogaeth daw cyfrifoldeb.

Yn dilyn digwyddiad hynod o ofidus yn un o’n parciau pan y gwelwyd dau gi mawr nad oedd ar dennyn yn dychryn dau blentyn ifanc iawn, roeddem yn teimlo ei bod yn gyfle da i atgoffa perchnogion cŵn o’u cyfrifoldebau mewn mannau cyhoeddus.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Er ei bod yn iawn i gŵn beidio â bod ar dennyn yn ein parciau, nid yw’n iawn i’w perchnogion adael iddyn nhw ddychryn plant ifanc a gofynnwn i bobl ddefnyddio eu synnwyr cyffredin.

Mae gan blant yr un hawl â chŵn a’u perchnogion i chwarae, mwynhau a theimlo’n ddiogel yn ein parciau ond dylid cyfaddawdu bob amser os bydd eich ci’n dychryn plant bach – neu hyd yn oed oedolion.

Dylid mynd at gŵn gyda chaniatâd y perchennog yn unig – a dim ond pan fydd gan y perchennog reolaeth lawn drostyn nhw.

Gall wardeniaid ofyn i chi roi eich ci yn ôl ar dennyn ond byddai’n well gennym beidio ag ymyrryd yn y modd hwn a gofynnwn i bawb sy’n defnyddio ein parciau i fod yn gwrtais, yn foesgar ac yn feddylgar tuag at yr holl ddefnyddwyr eraill.

Annog synnwyr cyffredin a chwrteisi gan holl ddefnyddwyr ein parciau

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Ar yr achlysur arbennig hwn, nid yn unig y gwnaeth perchennog y cŵn wrthod rhoi’r cŵn yn ôl ar dennyn pan y gofynnwyd iddo wneud, ond fe drodd hefyd yn ymosodol ac yn sarhaus. Nid yw hyn byth yn dderbyniol, yn enwedig pan fo plant ifanc yn y cwestiwn, a buaswn yn annog synnwyr cyffredin a chwrteisi gan bawb sy’n defnyddio ein parciau.

“Rydym eisiau iddyn nhw barhau i fod yn fannau pleserus a dymunol i bawb, sy’n golygu y bydd yn rhaid i gyfran fechan o ddefnyddwyr gyfaddawdu. Meddyliwch am y ffordd rydych yn gadael i’ch ci ymddwyn, neu sut y gallai ymddygiad eich ci effeithio ar bobl eraill a byddwch yn barod i gyfaddawdu. Efallai bod eich anifeiliaid anwes yn gyfeillgar ac yn ddiniwed ond i blentyn bach gallan nhw ymddangos fel anifeiliaid mawr a brawychus ac achosi cryn ofid.”

Rydym yn cydnabod mai lleiafrif bychan iawn o berchnogion cŵn anghyfrifol rydym yn eu targedu yma, ac rydym yn gobeithio y bydd ein neges yn eu cyrraedd.

Dyma eich atgoffa am y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy’n berthnasol i gŵn mewn mannau cyhoeddus:

  • cael gwared ar faw eu cŵn ym mhob man cyhoeddus yn y fwrdeistref sirol gyfan
  • bydd cŵn yn cael eu gwahardd o lawntiau bowlio, ardaloedd chwarae ar gaeau chwaraeon sydd wedi’u marcio ac ardaloedd chwarae plant, parciau sgrialu, cyrtiau tennis ac ardaloedd gemau amlddefnydd sydd wedi’u ffensio (ac eithrio perchnogion â chŵn tywys)
  • bydd yn rhaid i berchnogion roi eu cŵn ar dennyn pan fydd Swyddog Awdurdodedig yn gorchymyn hynny
  •  rhoi eu cŵn ar dennyn o amgylch canolfannau ymwelwyr a meysydd parcio mewn parciau a lawntiau bowlio
  •  bydd yn rhaid i berchnogion roi eu cŵn ar dennyn ar ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol ARTIST YN DATGELU EI BROSIECT CELF DIWEDDARAF SY’N DATHLU GOFALWYR MAETH LEDLED CYMRU ARTIST YN DATGELU EI BROSIECT CELF DIWEDDARAF SY’N DATHLU GOFALWYR MAETH LEDLED CYMRU
Erthygl nesaf Electric Charging Points Newyddion da wrth i Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan fod ar gael yn y Waun a Chanol y Dref

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English