Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – rhannwch eich barn ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – rhannwch eich barn ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Wrecsam
Pobl a lle

Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – rhannwch eich barn ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 12, 2026 12:45 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Wrexham city centre
RHANNU

Sesiwn galw heibio

Bydd sesiwn galw heibio hefyd yn Nhŷ Pawb ddydd Mawrth, 13 Ionawr rhwng 2pm a 3pm – pan fydd swyddogion y cyngor wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Mae Cyngor Wrecsam wedi lansio ymgynghoriad ar ei Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) yng nghanol y ddinas, y mae’n ei ddefnyddio i helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae’r gorchymyn diweddaraf wedi bod ar waith ers 2023 ac mae’n ofyniad cyfreithiol i adnewyddu, addasu neu newid GDMCau bob 3 blynedd. Mae’r GDMC yn cynnwys gwaharddiadau ynghylch agweddau ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnyddio alcohol a sylweddau yn gyhoeddus, sy’n caniatáu i swyddogion dirprwyedig gymryd camau gorfodi ar draws ardal benodol o’r ddinas.

Nid ydym yn cynnig unrhyw newidiadau i’r GDMC – dim ond ymestyn y gorchymyn am dair blynedd arall.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor hyd at 18 Ionawr.

Dysgwch fwy a rhannwch eich barn…

Rhannwch eich sylwadau

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Ddiogelwch Cymunedol: “Gall GDMC fod yn ddefnyddiol wrth ddelio â mathau penodol o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae un wedi bod ar waith yng nghanol y ddinas ers sawl blwyddyn.

“Rydym nawr yn ystyried ymestyn y gorchymyn am dair blynedd arall, ond cyn gwneud hyn, hoffem wybod beth mae pobl yn ei feddwl… ydyn nhw’n credu bod y GDMC yn ddefnyddiol, ac ydyn ni wedi cael y cydbwysedd yn gywir? Rhowch bum munud o’ch amser i rannu eich barn, os gwelwch yn dda.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Wellbeing Hub Sensory Room Sesiwn ystafell synhwyraidd ar gael i deuluoedd drwy Hwb Lles Wrecsam
Erthygl nesaf Gyrfa newydd ar gyfer y Flwyddyn Newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf... Gyrfa newydd ar gyfer y Flwyddyn Newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English