Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ydych chi’n gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim?
Arall

Ydych chi’n gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim?

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 3, 2021 4:12 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Oeddech chi’n gwybod bod cynllun yng Nghymru sy’n cynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim?

Cynnwys
  • Mae hwn yn gynllun effeithlonrwydd ynni gwych
  • Gallech fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim os:

Gallai hynny olygu boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio i helpu i’ch cadw chi a’ch teulu’n gynnes a gostwng eich biliau ynni ar yr un pryd.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Gweithredir y cynllun gan “Nyth – Gwneud Cymru’n Glyd” a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi’i anelu at aelwydydd incwm isel a’r rheiny sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ledled Wrecsam a Chymru.

Ond peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gymwys i gael gwelliannau ynni am ddim oherwydd maen nhw hefyd yn cynnig cyngor rhagorol ar gyfer gwneud arbedion.

Mae hwn yn gynllun effeithlonrwydd ynni gwych

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae hwn yn gynllun effeithlonrwydd ynni gwych a dylai pobl fod yn gwneud y gorau o’r holl gefnogaeth sydd ar gael. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol a bydd yn helpu preswylwyr i gadw’n gynnes a lleihau eu biliau ynni ar yr un pryd.

I rai, bydd hyn yn rhyddhad wrth iddynt frwydro yn ystod misoedd y gaeaf i gadw eu teulu’n gynnes wrth ymdrechu i dalu biliau ynni felly gwnewch yr alwad a gweld pa help rydych chi’n gymwys amdano.”

Gallech fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim os:

  • Rydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n rhentu oddi wrth landlord preifat (nid y Cyngor na’r Gymdeithas Dai)
  • Nid yw eich cartref yn ynni effeithlon ac mae’n ddrud i’w gynhesu
  • Rydych chi neu rywun rydych chi’n byw gyda nhw yn derbyn budd-dal prawf modd NEU mae ganddynt gyflwr cronig anadlol, cylchrediad y gwaed neu iechyd meddwl ac incwm islaw trothwyon diffiniedig (mae gwybodaeth lawn am feini prawf iechyd ar gael yma)

Mae cartrefi ledled Cymru eisoes yn elwa o’r cynllun a gallai eich cartref chi fod y nesaf i elwa 🙂

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy gallwch edrych ar eu gwefan yn nyth.llyw.cymru neu roi galwad iddynt ar 0808 808 2244 (rhadffôn).

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol dat Gwiriadau data am ddim i fusnesau bach
Erthygl nesaf green bin Bydd adnewyddu casgliadau gwastraff gardd yn agor ar ddiwedd y mis

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English