Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad ym Marchwiail yn tanio apêl ‘Achubwch Fywyd’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Digwyddiad ym Marchwiail yn tanio apêl ‘Achubwch Fywyd’
ArallPobl a lle

Digwyddiad ym Marchwiail yn tanio apêl ‘Achubwch Fywyd’

Diweddarwyd diwethaf: 2021/05/27 at 3:27 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Marchwiel
RHANNU

Erthygl gwadd – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Mae Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, wedi gwneud apêl bersonol i aelodau o’r gymuned ofalu am deulu, ffrindiau a chymdogion sy’n agored i niwed, ac i ymuno ag ef i gefnogi’r ymgyrch #AchubwchFywyd.

Wrth lansio’r ymgyrch, mae Paul wedi rhyddhau lluniau o’r difrod ofnadwy a achoswyd gan dân yr aeth ato dros y penwythnos ym Marchwiail, ger Wrecsam.

https://www.youtube.com/watch?v=xZv7RKlBOGc

Credir bod y tân wedi cael ei gynnau gan sigarét, ac achosodd 100% o ddifrod tân i ystafell wely dynes yn ei saithdegau a oedd yn byw ar ei phen ei hun yn yr eiddo.

M
Marchwiel

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Roedd larymau mwg yn yr eiddo wedi’u cysylltu â system larwm, a rhoddodd honno wybod i ystafell reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod tân yn ei chartref ar Rodfa Elwyn, Marchwiail, Wrecsam brynhawn Sul.

Aeth dau griw o Wrecsam yno, ac fe wnaeth y diffoddwyr tân achub y ddynes. Cafodd ei thrin yn y fan a’r lle gan barafeddygon, ac mae hi nawr yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Dywedodd Paul: “Rydw i mor falch o ddweud, ar ôl siarad a theulu Glenys, sef y wraig yn y tân, ei bod yn ymddangos ei bod ar y ffordd i wella – a dymunwn y gorau iddi.

“Heb y larymau mwg a oedd yn cael eu monitro, a chamau gweithredu cyflym ein criwiau, fe allen ni’n hawdd fod wedi gorfod delio â thrasiedi arall yma yng Ngogledd Cymru.

“Yn llawer rhy aml, rydw i’n gweld y difrod sy’n gallu cael ei achosi gan dân – a dyna pam rydw i eisiau gwneud popeth o fewn fy ngallu i wneud i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i ddiogelu ein cymunedau.

“Yn anffodus, mae pobl yn dal i golli eu bywydau yng Nghymru o ganlyniad i dân yn y cartref – ond gallwch chi ein helpu ni i arbed bywyd.

“Roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle yma, fel rhan o’r ymgyrch #AchubwchFywyd, i apelio ar bawb i dreulio ychydig funudau’n gweld sut mae pobl a allai fod yn fwy agored i niwed gan dân.

“Gallen nhw fod yn gymydog i chi, yn berthynas neu’n rhywun rydych chi’n gofalu amdano. Mae’n debygol fod cael larymau mwg sy’n cael eu monitro wedi arbed bywyd Glenys. Mae’r systemau’n cael eu monitro 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ac maen nhw’n gallu cysylltu â’n hystafell reoli ni os bydd y larymau mwg yn canu –  gall teulu a ffrindiau gael sicrwydd o wybod y bydd rhywun wrth law mewn argyfwng. Mae’n hawdd cael gafael ar rai.

“Mae gan y rhan fwyaf ohonom bobl oedrannus neu bobl agored i niwed yn ein bywydau, sef pobl a allai fod angen help llaw. Un ffordd syml o helpu yw gwneud yn siŵr fod ganddynt larymau mwg gweithredol ar bob llawr o’u cartref.

Marchwiel

“Gallwch chi arbed bywyd drwy dreulio ychydig funudau’n gweld sut mae pobl a allai fod yn fwy agored i niwed gan dân.

“Rydyn ni eisiau clywed gennych er mwyn adnabod yr unigolion sydd fwyaf agored i niwed petaen nhw’n cael tân yn eu cartrefi.

“Gallwch chi gael mwy o gyngor drwy gofrestru i gael archwiliad diogel ac iach drwy fynd i’n gwefan neu ffonio 0800 1691234.

“Rydyn ni yma i helpu, a gyda’n gilydd gallwn ni arbed bywyd.”

Mae gwybodaeth ynglŷn â chadw’n ddiogel rhag tân yn y cartref ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn y fan yma.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Waste Neges am biniau ac ail gylchu
Erthygl nesaf Does dim newid i gasgliadau biniau dros ŵyl y banc Does dim newid i gasgliadau biniau dros ŵyl y banc

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 17, 2026
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg Ionawr 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 17, 2026
off-gas
Pobl a lle

Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…

Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Pobl a lle

Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 15, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English