Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cwmnïau Wrecsam yn cael cynnig gweithdai lleihau carbon fel rhan o’r ‘Ras i Sero’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cwmnïau Wrecsam yn cael cynnig gweithdai lleihau carbon fel rhan o’r ‘Ras i Sero’
Y cyngor

Cwmnïau Wrecsam yn cael cynnig gweithdai lleihau carbon fel rhan o’r ‘Ras i Sero’

Diweddarwyd diwethaf: 2021/09/28 at 9:08 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Zero Carbon
RHANNU

Fel rhan o’r digwyddiadau cyn COP26, rhwng 1pm a 4pm ddydd Llun 4 Hydref 2021 ym Mhrifysgol Glyndŵr bydd modd i fusnesau Wrecsam fanteisio ar weithdai lleihau carbon a derbyn cyngor ymarferol ar net o sero.

Bydd y gweithdai’n cael eu darparu gan Planet Mark – grŵp cynaliadwyedd ac ardystio net o sero blaenllaw sydd fel rheol yn gweithio gyda chwmnïau fel Centrica a Charles Trywhitt ac sy’n rhan o ymgyrchoedd Ras i Sero a Gyda’n Gilydd ar gyfer Ein Planed.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Yn y Deyrnas Unedig mae’r Ras i Sero yn cael ei chydlynu gan adran Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiant Kwasi Kwarteng, sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol, Planet Mark, Sefydliad y Cyfarwyddwyr ac eraill. Hon yw ymgyrch flaenllaw Llywodraeth y DU i godi ymwybyddiaeth y gymuned fusnes o’r angen dybryd i gwmnïau leihau eu hallyriadau carbon.

Mae’r ymweliad hwn â Phrifysgol Glyndŵr ar 4 Hydref yn rhan o Daith Ddi-Garbon Planet Mark, lle mae bws brwydr hollol drydanol yr ymgyrch yn ymweld â 30 o drefi a dinasoedd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Dechreuodd y daith yng Nghaergrawnt a bydd yn dod i ben yng Nglasgow ar gyfer COP26.

Dangosodd adroddiad mis Awst y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd ba mor frawychus ydi’r argyfwng hinsawdd. Yn ôl yr astudiaeth mae’n glir bod dylanwad dynol wedi cynhesu’r atmosffer, y moroedd a’r tir. Felly, mae’n rhaid i fusnesau a sefydliadau’r ardal, ac ar draws y Deyrnas Unedig, gael eu hannog i weithredu rŵan i leihau eu hallyriadau carbon ac i helpu i greu planed a chymdeithas iachach.

Yn ystod y digwyddiad bydd tîm Planet Mark yn dangos i fusnesau sut y gallan nhw osod eu targedau lleihau carbon eu hunain a rhoi cynlluniau ar waith i’w cyrraedd yn unol â meini prawf gofynnol a thrylwyr y Ras i Sero.

Bydd y digwyddiad yn grymuso cwmnïau lleol a’u gweithwyr i ddod yn rhan o ymdrech genedlaethol fwy i ddiogelu ein hamgylchedd drwy resymoli’r hyn sydd angen ei wneud i gyflawni net o sero. Bydd hefyd yn amlygu’r gwaith da y mae llawer o gwmnïau eisoes yn ei wneud i fynd i’r afael â’u hallbwn carbon.

Meddai Steve Malkin, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Planet Mark: “Rydym yn falch o gydweithio gyda busnesau Wrecsam ar ein Taith Ddi-Garbon sy’n rhan o ymgyrch Gyda’n Gilydd ar gyfer Ein Planed fel rhan o COP26. Rydym yn edrych ymlaen at ymgynnull wyneb yn wyneb ac ar-lein gyda chymuned fusnes Wrecsam i siarad am y ffyrdd y gallan nhw, beth bynnag eu maint, gyfrannu at y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a gwneud ymrwymiad di-garbon net. Drwy’r Ras i Sero gall pob un ohonom ni chwarae rhan yn nyfodol ein planed.”

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma gyfle mawr i fusnesau Wrecsam ganfod sut y gallan nhw gyfrannu at gyrraedd targedau di-garbon uchelgeisiol a heriol. Gwn y bydd llawer yn awyddus i gymryd rhan a hoffaf annog cymaint o fusnesau â phosibl i fanteisio ar y cyfle unigryw hwn cyn COP26.”

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Ras i Sero yma.

Gall busnesau gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar 4 Hydref drwy Eventbrite.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol BorrowBox Teitlau ‘Read Now’ o BorrowBox
Erthygl nesaf Fuel Y wybodaeth ddiweddaraf am gan y Fforwm Cadernid Lleol ynghylch y sefyllfa bresennol o ran tanwydd

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg Awst 19, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

J
Busnes ac addysgY cyngor

Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol

Awst 20, 2025
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan

Awst 13, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English