Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cadwch lygad am ffrindiau a pherthnasau diamddiffyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cadwch lygad am ffrindiau a pherthnasau diamddiffyn
Y cyngor

Cadwch lygad am ffrindiau a pherthnasau diamddiffyn

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 6, 2022 12:13 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Vulnerable
RHANNU

Rydym yn gofyn i drigolion gadw llygad dros eu cymdogion a’u perthnasau yn ystod y pandemig parhaus.

Gydag achosion Covid-19 yn cynyddu drwy’r wlad yn sgil amrywiolyn Omicron, mae’r Cyngor yn gofyn i’r cyhoedd gadw llygad am eu ffrindiau, cymdogion a pherthnasau diamddiffyn a allai fod yn wael eu hunain neu a allai fod yn unig am fod eu hymwelwyr arferol yn hunan-ynysu.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “

Os oes gan bobl gymdogion, ffrindiau neu berthnasau sy’n wael neu’n teimlo’n ynysig, fe’u hanogir i gysylltu â nhw yn ddiogel i weld a oes arnyn nhw angen cymorth i siopa neu unrhyw gymorth arall.

“Efallai mai chi fydd yr unig berson sy’n cysylltu â nhw, felly fe fyddan nhw’n siŵr o werthfawrogi eich caredigrwydd a’ch ystyriaeth.  Gall effaith hunan-ynysu ar unigolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu ar bobl ddiamddiffyn fod yn anodd iawn. Rydym am wneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo’n ddiamddiffyn nac yn ynysig, a’u hannog i dderbyn cymorth gan deulu, ffrindiau neu bobl y maen nhw’n eu hadnabod.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol sicrhau nad ydych chi’n dod i gyswllt agos ag unrhyw un sy’n hunan-ynysu yn sgil Covid-19, felly fe ddylech chi adael unrhyw fwyd neu feddyginiaeth ar stepen y drws, ac mae codi’r ffôn neu gysylltu ar lein yn ffyrdd da o gadw llygad ar rywun heb gynyddu’r risg o ledaenu’r feirws ymhellach.”

Anogir pobl i helpu cefnogi’r ymdrech frechu, ac fe allwch chi wneud apwyntiad ar lein neu fynd i glinigau galw heibio dynodedig i gael eich brechiad cyntaf, yr ail neu’r hwblyn.

Mae’r gwasanaeth archebu ar-lein i’w weld yn: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/brechlyn-covid-19/trefnu-apwyntiad-ar-lein-pigiad-covid-19/

Mae’n hanfodol ein bod oll yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal lledaeniad Covid-19, ac mae hyn yn cynnwys golchi a diheintio eich dwylo yn rheolaidd, cadw pellter, gwisgo gorchudd wyneb ac agor ffenestri os ydych chi’n cwrdd ag unrhyw un dan do.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Schools Cyngor yn croesawu adborth gan Estyn wrth i ysgol wneud cynnydd
Erthygl nesaf Libby Libby – Yr ap darllen digidol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English