Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolfannau ailgylchu yn cael diffibrilwyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Canolfannau ailgylchu yn cael diffibrilwyr
Y cyngor

Canolfannau ailgylchu yn cael diffibrilwyr

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 21, 2022 9:23 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Defibrillator at recycling centre
RHANNU

Y mae gan y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam eu diffibriliwr eu hunain y gall aelodau o’r cyhoedd eu defnyddio yn ystod oriau agor y safleoedd.

Cynnwys
  • Beth yw Diffibriliwr Cyhoeddus?
  • Oriau agor
  • Defnyddiwch eich canolfan ailgylchu leol

Mae FCC Environment, sydd yn rheoli ein canolfannau ailgylchu yn Wrecsam, wedi gosod Diffibrilwyr Cyhoeddus (PADs) ar safleoedd Lôn y Bryn, Brymbo (y Lodge) a Phlas Madoc yn ddiweddar.

Mae arwyddion ym mhob un o’r canolfannau ailgylchu i ddangos lle mae’r diffibrilwyr, neu gallwch ofyn i un o’r staff a all ddangos i chi lle maen nhw.

Beth yw Diffibriliwr Cyhoeddus?

Y mae diffibrilwyr cyhoeddus yn ddyfeisiadau a all achub bywydau. Maent wedi eu gosod mewn mannau cyhoeddus, ac maent yn rhoi sioc drydanol i glaf sydd yn cael ataliad y galon. Mae’r dyfeisiadau hyn yn syml a diogel i’w defnyddio, ac maent yn achub bywydau. Nid oes angen hyfforddiant i ddefnyddio diffibriliwr cyhoeddus.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae cael Diffibrilwyr Cyhoeddus yn y canolfannau ailgylchu yn gam positif iawn, ac ’rydym yn diolch i FCC Environment fod y dyfeisiadau achub bywyd hyn ar gael i’r cyhoedd. Gobeithio na fydd angen eu defnyddio fyth, ond mae’n bwysig eu bod ar gael rhag ofn bydd argyfwng. Po fwyaf ohonynt sydd gennym ar gael i’r cyhoedd, y gorau; a bydd yn helpu i achub mwy o fywydau.”

Gellwch gael gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â’r hyn i’w wneud pan fo rhywun yn cael ataliad y galon ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/achub-bywyd-cymru

Oriau agor

Dyma’ch atgoffa o oriau agor pob canolfan ailgylchu:

Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT

• 8am – 8pm drwy gydol y flwyddyn

Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR

• Mis Mawrth 9am – 6pm
• Mis Ebrill i fis Awst 9am – 8pm
• Mis Medi 9am – 6pm
• Mis Hydref i fis Chwefror 9am – 4pm

Banc Wynnstay, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES

• Mis Mawrth 9am – 6pm
• Mis Ebrill i fis Awst 9am – 8pm
• Mis Medi 9am – 6pm
• Mis Hydref i fis Chwefror 9am – 4pm

Defnyddiwch eich canolfan ailgylchu leol

A ydych yn gwneud y defnydd mwyaf o’ch canolfan ailgylchu? Fe fyddwch yn siŵr o fod yn gwybod y gallwch ddod â phethau fel papur, gwydr, pren, gwastraff gardd ac eitemau trydanol i’r canolfannau ailgylchu i’w hailgylchu – y pethau arferol – ond mae llawer mwy na hyn mewn gwirionedd.

Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â chanolfannau ailgylchu Wrecsam yn yr erthygl hon…

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Blue Badge Camddefnyddio Bathodyn Glas yn arwain at gostau i ddyn lleol
Erthygl nesaf Air Quality Monitoring Safle Monitro Ansawdd Aer yn Ysbyty’r Waun

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English