Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Defnyddiwch eich canolfan ailgylchu leol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Defnyddiwch eich canolfan ailgylchu leol
Y cyngor

Defnyddiwch eich canolfan ailgylchu leol

Diweddarwyd diwethaf: Medi 28, 2023 2:48 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Recycling
RHANNU

Mae’n siŵr y bydd y mwyafrif ohonoch yn gwybod bod gennym dair canolfan ailgylchu gwastraff y cartref yn Wrecsam, ond ydych chi’n defnyddio’r cyfleusterau hyn cymaint ag y gallech?

Cynnwys
  • Oriau Agor
      • Beth allwch chi ei ailgylchu?
      • Ni chaniateir deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol
      • Cynlluniwch eich ymweliad – mae’n arbed amser
      • Peidiwch â chymryd rhan mewn tipio anghyfreithlon
      • Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?
      • Rheolau’r canolfannau ailgylchu

Cofiwch y gall trigolion Wrecsam ddefnyddio’r tair canolfan AM DDIM, ac maen nhw ar agor saith diwrnod yr wythnos.

Oriau Agor

Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT

• 8am – 8pm drwy gydol y flwyddyn

Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR

• Mis Mawrth 9am – 6pm
• Mis Ebrill tan Awst 9am – 8pm
• Mis Medi 9am – 6pm
• Mis Hydref tan Chwefror 9am – 4pm

Banc Wynnstay, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES

• Mis Mawrth 9am – 6pm
• Mis Ebrill tan Awst 9am – 8pm
• Mis Medi 9am – 6pm
• Mis Hydref tan Chwefror 9am – 4pm

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Beth allwch chi ei ailgylchu?

Fe fyddwch yn siŵr o fod yn gwybod y gallwch ddod â phethau fel papur, gwydr, pren, gwastraff gardd ac eitemau trydanol i’r canolfannau ailgylchu i’w hailgylchu – y pethau arferol – ond mae llawer mwy na hyn mewn gwirionedd.

Edrychwch ar wefan wrecsam.gov.uk/service/ffyrdd-eraill-o-ailgylchu-yn-wrecsam/canolfan-ailgylchu-gwastraff-y-cartref a chliciwch ar ‘eitemau ychwanegol y gallwch eu hailgylchu’ am restr lawn.

Ychydig o’r eitemau ar y rhestr gynhwysfawr hon yw batris car, olew coginio a matresi i enwi dim ond rhai.

Ni chaniateir deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol

Os ydych yn dod ag unrhyw fagiau i’w rhoi yn y sgipiau gwastraff cyffredinol yn y canolfannau ailgylchu, gofalwch nad oes unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy ynddyn nhw.

Oherwydd mesurau diogelwch, ni all ein gweithwyr agor y bagiau i weld a oes deunyddiau ailgylchadwy ynddynt, felly rydym yn dibynnu arnoch chi i sicrhau nad yw’r bagiau yn cynnwys unrhyw beth a all gael ei ailgylchu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu allan unrhyw boteli, caniau ac ati sydd wedi eu rhoi yn y bagiau mewn camgymeriad, a’u rhoi yn eich biniau ailgylchu wrth ymyl y ffordd neu yn y banciau ailgylchu priodol yn y ganolfan ailgylchu.

Cynlluniwch eich ymweliad – mae’n arbed amser

Mae cynllunio’ch ymweliad yn ffordd dda o arbed amser.

Yn syml, os ydych yn cyrraedd gyda’ch deunyddiau heb eu didoli, byddwch yn treulio mwy o amser ar y safle.

Os ydych chi wedi didoli eich deunyddiau ymlaen llaw, byddant yn barod i’w rhoi yn y baeau cywir yn syth. Os ydych yn ansicr ble mae unrhyw eitemau yn mynd, dylech eu rhoi i un ochr ac ar ôl cyrraedd y safle gall y cynorthwywyr ddweud wrthych ble y dylech eu rhoi.

Mae’r broses yn rhedeg yn fwy esmwyth os yw pawb yn gwneud hyn.

Peidiwch â chymryd rhan mewn tipio anghyfreithlon

Trwy fynd â’ch gwastraff i’r safleoedd byddwch yn ein helpu gyda’n cyfraddau ailgylchu, hefyd byddwch osgoi bod yn rhan o unrhyw droseddau tipio anghyfreithlon yn ddiarwybod gan wasanaethau sy’n cynnig gwaith clirio tai am brisiau gostyngedig.

Mae nifer o achlysuron lle mae trigolion wedi talu i rywun waredu eu sbwriel, heb sylweddoli eu bod mewn gwirionedd yn cymryd eu harian a gwaredu’r sbwriel lle bynnag y gallant. Gallai hyn eich gwneud yn atebol os oes modd olrhain y sbwriel yn ôl atoch chi

Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?

Mae’r siop ailddefnyddio a redir gan Hosbis Tŷ’r Eos wedi’i lleoli ar safle canolfan ailgylchu Lôn y Bryn. Yma gallwch brynu eitemau o safon sydd wedi cael eu hailgylchu. Mae ystod eang o stoc ar gael yn y siop bob amser ac maent yn cynnig gwerth gwych am arian. Byddem yn annog pawb i fynd yno i weld dros eu hunain.

Gallwch hefyd gyfrannu eitemau a allai gael eu hailwerthu yn y siop trwy fynd â nhw i unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu a fydd yn eu pasio ymlaen i’r siop ailddefnyddio. Ydych chi’n ansicr ble i fynd â rhoddion? Siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn gallu eich rhoi ar ben ffordd.

Rheolau’r canolfannau ailgylchu

I atgoffa’ch hunain beth yw’r rheolau presennol yn y canolfannau ailgylchu, edrychwch yma.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wedi'i diweddaru: Mae amser yn rhedeg allan Wedi’i diweddaru: Mae amser yn rhedeg allan
Erthygl nesaf Construction Digwyddiad Gyrfaoedd Adeiladu Treftadaeth ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English