Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyfarfod Pennaeth ein hysgol cyfrwng Gymraeg newydd…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cyfarfod Pennaeth ein hysgol cyfrwng Gymraeg newydd…
Busnes ac addysgPobl a lle

Cyfarfod Pennaeth ein hysgol cyfrwng Gymraeg newydd…

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 24, 2022 10:47 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Rhiannon James
Rhiannon James
RHANNU

Rydym yn gyffrous iawn i gyflwyno pennaeth dros dro ein hysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, fydd yn agor ym mis Medi ac yn darparu addysg i blant 3 i 11 oed. Mae’r ysgol, Ysgol Llan-y-pwll wedi’i lleoli yn ardal Borras canol y dref.

Ganwyd Rhiannon James yn Wrecsam ac mae’n dal i fyw yn yr ardal gyda’i gŵr a thri o blant ac mae’n awyddus i ddechrau yn ei rôl newydd. Dywedodd “Rwy’n gyffrous iawn am gael fy mhenodi yn bennaeth cyntaf Ysgol Llan-y-pwll.

Bydd yr ysgol yn agor ei drysau i ddisgyblion meithrin a derbyn ym mis Medi fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu ein disgyblion cyntaf a’u harwain a’u cefnogi ar eu siwrnai gyffrous o ddysgu drwy’r amrywiaeth o brofiadau dynamig a ddarperir gan yr ysgol. Bydd yn gyfle anhygoel ac rwy’n edrych ymlaen at sefydlu ysgol hapus a chroesawgar gydag ethos cymuned sy’n ffynnu. Gan y byddaf y pennaeth cyntaf yn yr ysgol, byddaf yn gallu gosod gweledigaeth glir o’r hyn rwy’n gobeithio ei gyflawni.

“Rwy’n teimlo ei bod yn fraint cael y cyfle i arwain a datblygu’r math o ysgol y teimlaf y dylai pob plentyn gael mynediad iddi; un lle mae pob plentyn yn bwysig, yn cael eu meithrin ac yn llwyddiannus.

Derbyniodd Rhiannon ei haddysg gynradd yn Ysgol Bodhyfryd a’i haddysg uwchradd yn Ysgol Morgan Llwyd. Yn dilyn hyn, astudiodd ar gyfer gradd Seicoleg ym Mhrifysgol Caerhirfryn ac yna cwblhaodd gwrs TAR ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion. Dechreuodd ei gyrfa addysgu yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint cyn symud i ddysgu yn Ysgol Bryn Tabor, Coed-Poeth yn 2009. Mae hi’n Ddirprwy Bennaeth yno ar hyn o bryd ond bydd yn dechrau yn ei rôl newydd fel pennaeth dros dro yn Ysgol Llan-y-pwll yn nhymor yr haf.

Bydd yna lawer o benderfyniadau i’w gwneud a nifer o bethau i’w rhoi ar waith cyn agor Ysgol Llan-y-pwll yn swyddogol ym mis Medi.

Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Pobl – Addysg, “Rydym yn gyffrous iawn am agor yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd. Dylai rhieni ystyried anfon eu plant i Llan-y-pwll gan y bydd yn amgylchedd hapus, croesawgar a gofalgar ble bydd pawb yn llwyddo. Mae penodiad Rhiannon fel Pennaeth dros dro yn rhoi’r ysgol mewn dwylo medrus iawn ac rwy’n hyderus y bydd yn ffynnu gyda’i gweledigaeth i ddatblygu amgylchedd hapus ble gall y plant ffynnu.”

Dywed Karen Evans, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar: “ Mae hwn yn dechrau taith cyffroes i Ysgol Llan-y-pwll a bydd y sefydliad o Ysgol gynradd newydd yn Wrecsam yn cadarnhau ein gwaith i ddarparu lefelau uchel o addysg i bob plentyn yn y sir.”

Os yw eich plentyn yn dathlu eu 3ydd neu 4ydd pen-blwydd cyn 1 Medi 2022, gallwch gyflwyno cais ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk neu e-bost admissions@wrexham.gov.uk am gymorth pellach.

Am fwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â’r ysgol yn: ysgol.cymraeg@wrexham.gov.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Air Quality Monitoring Safle Monitro Ansawdd Aer yn Ysbyty’r Waun
Erthygl nesaf Are you 16? Ydych chi’n 16 oed? Beth yw eich dewisiadau?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English