Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gŵyl Cymru ar gyfer cerddoriaeth newydd yn cyhoeddi prif sgwrs a rhaglen y gynhadledd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall
Dog
Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?
Arall
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gŵyl Cymru ar gyfer cerddoriaeth newydd yn cyhoeddi prif sgwrs a rhaglen y gynhadledd
ArallPobl a lle

Gŵyl Cymru ar gyfer cerddoriaeth newydd yn cyhoeddi prif sgwrs a rhaglen y gynhadledd

Diweddarwyd diwethaf: 2022/04/13 at 2:38 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Focus Wales
Self Esteem - credit Olivia Richardson
RHANNU

Llun Self Esteem – gan Olivia Richardson

FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru bellach, gyda thri diwrnod llawn o baneli, sgyrsiau gan brif siaradwyr a chyngor yn ymwneud â’r diwydiant. Yn ogystal â hyn, mae’r ŵyl wedi cyflwyno lleoliad mawr newydd gyda chapasiti o 1200, gan wthio capasiti cyffredinol yr ŵyl i 20,000. Bydd dros 400 o weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth a 250+ o berfformwyr yn dod i’r ŵyl yn Wrecsam o bob cwr o’r byd ar 5 – 7 Mai 2022.

Mae sesiwn gyda phrif siaradwr yr ŵyl wedi ei gyhoeddi heddiw, sef Rebecca Lucy Taylor (Self Esteem) mewn sgwrs gyda Jude Rogers (The Guardian). Bydd Rebecca yn trafod ei gyrfa mewn cerddoriaeth hyd yn hyn, gan gynnwys croesi’r diwydiant o fand indi’r 00au i seren bop sydd wedi ennill gwobrau, a chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad theatr yn serennu Jodie Comer.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Bydd Jude Rogers hefyd yn sgwrsio gyda’r cyfansoddwr ac awdur  Flip The Script Arusa Qureshi, yn dilyn cyhoeddiad llyfr Jude The Sound of Being Human: How Music Shapes Our Lives.

Bydd testunau panel eraill yn archwilio teithio’n gynaliadwy, Power Up Wales PRSF, cysylltiadau cyhoeddus, beth mae’n ei olygu i fod yn label indi yn 2022, a chyhoeddi. Bydd PRSF hefyd yn cynnal digwyddiad swyddogol ar gyfer eu Partneriaid Datblygu Talent.

Mae’r cyfranogwyr diwydiant sydd wedi’u cyhoeddi yn cynnwys: Lauren Down (End of The Road Festival), Cils Williams (ATC Live Agency), Jessie Atkinson (Giwise), Ben Ryles (DHP Family), Ian White (Outer/most Agency, UDA), Shikayla Nadine (SNM Management), Adam Lewis (Planetary Group, UDA), Anika Mottershaw (Bella Union), Chris Wynters (Six Shooter Records), Jeroen van den Bogert (BLiP Agency, Yr Iseldiroedd), Oskar Strajn (ESNS, Yr Iseldiroedd), Dana Beeler (Music Nova Scotia) yn ogystal â chynrychiolwyr o PRS Foundation, AIM, PPL a’r Cyngor Celfyddydau.

Mae’r perfformwyr sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer FOCUS Wales 2022 yn cynnwys…

Yn dilyn rhyddhau eu 4ydd albwm Bright Magic yn niwedd 2021, bydd PUBLIC SERVICE BROADCASTING yn perfformio eu set byw mwyaf uchelgeisiol erioed, gan serennu yn Llwyn Isaf, y brif babell newydd ar ddydd Iau 5 Mai. Yn dilyn sgwrs Rebecca yn yr ŵyl, bydd SELF ESTEEM yn perfformio’n fyw am y tro cyntaf yn Wrecsam ddydd Gwener 6 Mai.

Bydd un o’r bandiau mwyaf dylanwadol ym myd cerddoriaeth fodern y DU, ECHO & THE BUNNYMEN yn serennu ddydd Sadwrn 7 Mai. Mae’r perfformwyr eraill sydd wedi’u cyhoeddi yn cynnwys y band pync GOAT GIRL, yn teithio ar ôl eu halbwm 2021 On All Fours, yr artist Cymraeg sydd wedi ennill gwobrau GWENNO, a’r grŵp roc CRAWLERS. Hefyd yn ymuno â’r rhestr o berfformwyr yw’r grŵp 16 darn, BALIMAYA PROJECT gan uno cerddoriaeth werin Gorllewin Affrica gyda jas mewn ffordd unigryw a chyfoes.

Cynhelir FOCUS Wales 2022 ar 5, 6 a 7 Mai mewn sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru.  Cefnogir FOCUS Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru, PRS Foundation a Llywodraeth Cymru.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Newbridge Sicrhau cyllid gwerth £2.8 miliwn ar gyfer ffordd wedi’i difrodi yng Nghefnbychan
Erthygl nesaf Football Galeri Luniau – Twrnamaint Pêl-droed Ysgolion #Wrecsam2025

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg Awst 19, 2025
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Awst 19, 2025
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall Awst 19, 2025
Dog
Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?
Arall Awst 19, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Home-Start Baby Bank project
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Awst 19, 2025
Hedgehog
Arall

Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?

Awst 19, 2025
Dog
Arall

Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?

Awst 19, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English