Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £5 miliwn o gyllid...

Diweddarwyd diwethaf: October 9, 2026 12:39 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
RHANNU

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £5 miliwn o gyllid ar gyfer Stryt Henblas, hen safle’r Hippodrome a Stryt Caer, i adeiladu parc diwylliannol newydd yng nghanol y ddinas…

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cyllid mawr i helpu i drawsnewid rhan allweddol o ganol dinas Wrecsam.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i drawsnewid yr ardal o amgylch Stryt Henblas, hen safle’r Hippodrome a Stryt Caer – gyda phalmentydd, celfi stryd, coed a mannau gwyrdd newydd.

Bydd hen safle’r Hippodrome hefyd yn cynnwys seddi haenog, gwaith tirlunio, sgrin awyr agored fawr a nodweddion dŵr.

Yn gyrru’r fenter mae gweledigaeth Cyngor Wrecsam o ardal ddiwylliannol newydd fywiog yng nghanol y ddinas – gan helpu i gefnogi economi’r dydd a’r nos, a meithrin hunaniaeth gryfach ar gyfer Wrecsam fel lle gyda marchnadoedd Fictoraidd traddodiadol, treftadaeth, celfyddydau a diwylliant.

Mae’r prosiect hefyd yn cyd-fynd â ‘Chynllun Creu Lleoedd’ y Cyngor, a nododd y potensial ar gyfer y math hwn o ddatblygiad yng nghanol y ddinas.

Safle’r Hippodrome
Stryt Caer
Stryt Henblas
Stryt Caer

Cyhoeddodd Siân Gwenllian, Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, y cyllid yn ystod ymweliad â’r ddinas yn gynharach heddiw, ac mae uwch arweinwyr Cyngor Wrecsam wedi croesawu’r newyddion.

Dywedodd Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian: “Mae wedi bod yn bleser gwirioneddol ymweld â Thŷ Pawb a gweld yr effaith drawsnewidiol y mae’r gofod hwn wedi’i chael ar gymuned greadigol Wrecsam.

“Mae cwrdd ag artistiaid wedi’i leoli yno wedi dangos i mi yn union beth y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn buddsoddi yng nghanol ein trefi, nid yn unig mewn brics a morter, ond yn y bobl a’r syniadau sy’n dod â nhw’n fyw.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu i adeiladu ar y gwaith gwych rydyn ni eisoes yn ei weld yn Wrecsam, gan gefnogi busnesau lleol, rhoi hwb i’r nifer o ymwelwyr a chreu mannau y gall cymunedau ymfalchïo ynddynt. Mae hefyd yn adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodir gan ein Tasglu Canol Trefi, sy’n helpu i sicrhau bod adfywio yn cael ei yrru gan yr hyn sydd ei angen ar gymunedau mewn gwirionedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Hoffwn ddiolch i Sian Gwenllian a Llywodraeth Cymru am gefnogi Wrecsam a chydnabod y potensial enfawr sydd gan y ddinas hon i’w gynnig.

“Rydym eisoes wedi cyflawni nifer o gynlluniau adfywio mawr gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y marchnadoedd dan do, y Stryt Fawr, hwb creadigol yr Hen Lyfrgell a’r amgueddfa.

“Bydd y cynlluniau cyffrous sydd gennym ar gyfer Stryt Henblas, hen safle’r Hippodrome a Stryt Caer yn ddarn arall o’r jig-so, wrth i ni geisio helpu Wrecsam i wireddu ei gwir botensial fel dinas fodern, hyderus.”

Bydd y prosiect yn cael ei ariannu’n gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau cyllid eraill, ac mae’r Cyngor yn gobeithio dechrau ar y gwaith cyn diwedd y flwyddyn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae’r pecyn ariannol hwn gan Lywodraeth Cymru yn allweddol iawn, ac yn nodi dechrau’r bennod gyffrous nesaf i Wrecsam.

“Rydym yn gobeithio adeiladu ar wedd a theimlad y Stryt Fawr, a gafodd ei hailwampio tua 18 mis yn ôl, a byddwn yn defnyddio’r un math o balmentydd, seddi amffitheatr awyr agored i greu gofod perfformio, planhigion a nodweddion chwarae fel ffynhonnau dŵr.

“Bydd Stryt Henblas a Stryt Caer yn teimlo’n fodern ac yn ddeniadol, a bydd hen safle’r Hippodrome yn ased gwych – perffaith ar gyfer teuluoedd a gweithgareddau cymunedol.”

Sian Gwen
Photo by Ian Cooper/Ian Cooper Photography.
Sian Gwenllian visits Wrexham
Photo by Ian Cooper/Ian Cooper Photography.
Sian Gwenllian visits Wrexham
Photo by Ian Cooper/Ian Cooper Photography.
Sian Gwenllian visits Wrexham
Photo by Ian Cooper/Ian Cooper Photography.

Hanes safle’r Hippodrome

Mae hen safle’r Hippodrome wedi bod yn bwnc llosg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bydd llawer o bobl yn Wrecsam yn cofio hen sinema’r Hippodrome gyda hiraeth gynnes. Caeodd y sinema yn y 1990au a llosgwyd yr adeilad yn 2008.

Ers 2023, mae’r safle wedi bod yn gysylltiedig â Hollywood ar ôl i Rob McElhenney gyhoeddi cynigion ar gyfer Parc Coffa Ryan Rodney Reynolds – man cymunedol a enwyd er anrhydedd i’w gydberchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Cyngor y byddai’n symud ymlaen gyda chefnogaeth cwmni Rob, More Better, ac yn edrych ar sut y gall drawsnewid y safle fel rhan o brosiect ehangach sy’n cynnwys Stryt Henblas a Stryt Caer.

Rhannu
Erthygl flaenorol Horace outside Wrexham Library Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam
Erthygl nesaf Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints  Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Library
Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn
Y cyngor Pobl a lle
November 5, 2026
Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026
Pobl a lle
November 5, 2026
Walking
Ewch yn Lleol ym mis Tachwedd
Pobl a lle Arall
November 5, 2026
Maes Parcio
🚗🚌 Wrecsam v Wolves – beth am Barcio a Theithio? ⚽
Pobl a lle Digwyddiadau
November 5, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Vote
Pobl a lleBusnes ac addysg

Mewn dau le ar yr un pryd…

November 2, 2026
Armed Forces
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄

October 28, 2026
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 

October 28, 2026
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle

Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen

October 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English