Mae Llyfrgell Wrecsam yn gwahodd pobl sydd â chysylltiadau â Wrecsam i helpu i ddatgelu stori hen sinemâu a theatrau’r ardal drwy rannu lluniau, dogfennau, gwrthrychau ac atgofion.
Cynhelir Diwrnod Galwad Gymunedol Hen Sinemâu a Theatrau Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam ddydd Mercher 14 Hydref 2026, rhwng 9.30am a 4.30pm.
Anogir pobl i ddod â deunydd sy’n gysylltiedig â sinemâu a theatrau Wrecsam neu’r bobl sy’n gysylltiedig â nhw. Gallai hyn gynnwys lluniau, rhaglenni, tocynnau, posteri, dogfennau neu eitemau gwerthfawr eraill.
Gall pobl hefyd rannu eu hatgofion o ymweld, gweithio neu berfformio yn y lleoliadau hyn.
Yn ystod y digwyddiad galw heibio, bydd staff Llyfrgell Wrecsam ac aelodau o dîm Casgliad y Werin Cymru wrth law i gyfarfod ymwelwyr, clywed eu straeon a sganio lluniau a dogfennau gan ddefnyddio offer newydd Gorsaf Dreftadaeth Ddigidol y llyfrgell a ddarparwyd gan Casgliad y Werin Cymru.
Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn amlygu straeon personol a delweddau nad ydynt efallai’n ymddangos mewn cofnodion swyddogol, gan helpu i greu darlun mwy cyflawn o hanes diwylliannol a chymdeithasol Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, yr Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid, “Mae gan Wrecsam hanes diwylliannol cyfoethog, ac mae ein sinemâu a’n theatrau wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau cenedlaethau o bobl leol.
Mae cymaint o’r hanes hwnnw wedi’i gadw yn atgofion, lluniau ac eitemau gwerthfawr pobl, ac mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i wneud yn siŵr nad yw’r straeon hynny’n cael eu colli.
Byddwn i’n annog unrhyw un sydd ag atgofion neu ddeunydd sy’n gysylltiedig â sinemâu Wrecsam i ddod draw, rhannu’r hyn sydd ganddyn nhw a’n helpu ni i adeiladu darlun hyd yn oed yn gyfoethocach o’n hanes lleol.”
Dywedodd Berian Elias, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned yn Casgliad y Werin Cymru, “Mae diwrnodau casglu cymunedol fel hyn yn helpu i ddiogelu straeon, delweddau ac atgofion na fyddai byth yn ymddangos mewn archifau traddodiadol fel arall, ac maen nhw’n hanfodol ar gyfer creu darlun mwy cyflawn a phersonol o hanes diwylliannol Wrecsam. Edrychwn ymlaen at gefnogi Llyfrgell Wrecsam i ddatgelu treftadaeth gyfoethog y ddinas.”
Nid oes angen apwyntiad. Gall ymwelwyr alw heibio i Lyfrgell Wrecsam ar unrhyw adeg rhwng 9.30am a 4.30pm.
Manylion y digwyddiad
Diwrnod Galwad Gymunedol Hen Sinemâu a Theatrau Wrecsam
Dydd Mercher 14 Hydref 2026
9.30am i 4.30pm
Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU


