Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 12, 2026 9:57 am
Rhannu
Darllen 4 funud
The People’s Emergency Briefing next screening is at
RHANNU

Daeth pobl yn Wrecsam at ei gilydd yn Nhŷ Pawb ddydd Llun, 5 Hydref 5 i fynd i ddangosiad ffilm i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r argyfwng hinsawdd a natur mawr sy’n wynebu’r DU.

Cynnwys
  • “Pan fo cymunedau’n dod at ei gilydd, maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth”
  • Cadwch eich lle ar gyfer 17 Hydref

Cafodd The People’s Emergency Briefing ei rhyddhau ym mis Ebrill eleni ac mae’n cael ei dangos mewn cymunedau, gweithleoedd, cynghorau, sinemâu a lleoliadau eraill ledled y wlad.

Cafodd y 100 tocyn a gynigiwyd ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus am ddim yn Nhŷ Pawb eu prynu’n gyflym, ac oherwydd y galw rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y ffilm yn cael ei dangos eto ddydd Sadwrn, 17 Hydref (manylion archebu llawn isod).

Fe wnaethon ni siarad â rhai aeth i weld y ffilm wrth iddynt adael y dangosiad ar 5 Hydref, ac fe wnaethon nhw siarad yn frwd am y negeseuon pwysig yn y ffilm. Edrychwch ar eu sylwadau yn y fideo isod…

“Pan fo cymunedau’n dod at ei gilydd, maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth”

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David A Bithell, sy’n arwain ymateb y Cyngor i’r newid yn yr hinsawdd: “Mae’n wych yr aeth cynifer o bobl i’r dangosiad cyhoeddus ar 5 Hydref, ac mae’r galw am ail ddigwyddiad yn dangos bod yr argyfwng hinsawdd a natur o bwys mawr i bobl yn Wrecsam. Pan fo cymunedau’n dod at ei gilydd, maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth.

“Mae angen i newid ddigwydd, ac mae angen iddo ddigwydd yn gyflym. Mae’n fater byd-eang, ond mae pawb yn gallu chwarae eu rhan. Os nad ydym yn gwneud hynny, ein cymunedau a’n cenedlaethau’r dyfodol fydd yn ysgwyddo’r canlyniadau.

“Mae’r ffilm yn creu argraff fawr – mae’n ddiddorol, yn addysgiadol ac yn ysbrydoli, ac mae’n bosib y bydd yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi byth yn eu gwylio. Os na lwyddoch chi i weld y dangosiad cyntaf, ceisiwch sicrhau lle yn Nhŷ Pawb ddydd Sadwrn, 17 Hydref.”

Cadwch eich lle ar gyfer 17 Hydref

Cynhelir ail ddangosiad cyhoeddus ddydd Sadwrn, 17 Hydref yn Nhŷ Pawb yng nghanol dinas Wrecsam. Drysau’n agor am 2pm gyda’r ffilm yn dechrau am 2.30pm  Mae croeso i bawb.

Archebwch eich tocynnau am ddim nawr

Mae’r ffilm yn seiliedig ar sesiwn friffio arwyddocaol a gynhaliwyd yn San Steffan, lle cyflwynodd arbenigwyr blaenllaw o’r DU dystiolaeth i fwy na 1,200 o wleidyddion, arweinwyr busnes a ffigurau dylanwadol eraill.

Wedi’i chyflwyno gan Chris Packham, mae’n archwilio amrywiaeth o faterion gan gynnwys:

  • Newid hinsawdd a thywydd eithafol.
  • Colli natur a dirywiad bioamrywiaeth.
  • Diogeledd bwyd.
  • Iechyd y cyhoedd.
  • Gwydnwch seilwaith.
  • Yr economi.
  • Diogelwch cenedlaethol.

The People’s Emergency Briefing

Dydd Sadwrn 17 Hydref

Drysau 2pm

Tŷ Pawb, Wrecsam LL13 8BB 

CADWCH LE NAWR

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws – Newyddion Cyngor Wrecsam

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Erthygl nesaf Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English