Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dieithryn yn achub bywyd mam trwy roi bôn-gelloedd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dieithryn yn achub bywyd mam trwy roi bôn-gelloedd
Arall

Dieithryn yn achub bywyd mam trwy roi bôn-gelloedd

Diweddarwyd diwethaf: Mai 25, 2022 10:24 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Stem Cells
RHANNU

Erthygl gwadd – Gwasanaeth Gwaed Cymru Datganiad i’r Wasg

Cafodd Simona Dubas, mam o Gasnewydd, ddiagnosis o ganser yn 27 oed. Bellach wedi gwella’n llwyr, yn dilyn trawsblaniad bôn-gelloedd llwyddiannus, mae Simona yn annog mwy o bobl ifanc ledled Cymru i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru ar Ddiwrnod Canser Gwaed y Byd (28 Mai).

Pan oedd ei mab Frank yn ddim ond pedair oed, darganfu Simona fod ganddi ganser y gwaed a elwir yn lewcemia myeloid acíwt. Ar ôl tair rownd aflwyddiannus o gemotherapi dwys, cafodd Simona drawsblaniad bôn-gelloedd a achubodd ei bywyd yn 2018 ar ôl dod o hyd i roddwr benywaidd a oedd yn cydweddu’n berffaith o’r Almaen.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Ar ôl cael diagnosis, dywedodd Simona, “I ddechrau, doeddwn i ddim yn deall difrifoldeb y sefyllfa. Roeddwn yn poeni mwy am yr ochr ymarferol o fod yn yr ysbyty. Er enghraifft, pwy sy’n mynd i ofalu am fy mab pan fydd fy ngŵr yn y gwaith?”

Er i Simona fynd ymlaen i wella’n llwyr, ni fydd tua 30% o gleifion canser y gwaed yn dod o hyd i rodd mêr esgyrn sy’n cydweddu angenrheidiol a fydd o bosib yn achub ei bywyd.

Heddiw, mae Simona a Gwasanaeth Gwaed Cymru yn annog mwy o bobl ifanc 17 i 30 oed i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.

Dywedodd Simona, “Mae dod yn rhoddwr bôn-gelloedd yn bwysig iawn oherwydd mae’r siawns y bydd aelod o’r teulu yn cydweddu â’r claf yn eithaf isel.”

“Pan wnes i ddarganfod bod rhoddwr wedi’i baru â mi, roeddwn i’n ddiolchgar dros ben, ac wedi fy llethu gyda’r ffafr anhunanol. Mae’n rhywbeth na allwch ei ddisgrifio mewn geiriau.

“I lawer o bobl sydd â chanser y gwaed ac anhwylderau gwaed eraill, trawsblaniad yw eu hunig gyfle i wella o’u salwch. Os ydych chi’n ystyried cofrestru, meddyliwch pa mor falch fyddech chi pe byddech chi’n achub bywyd rhywun.”

Ledled y byd, mae dros 50,000 o gleifion y flwyddyn yn gobeithio dod o hyd i rywun sydd ddim yn perthyn sy’n addas ar gyfer trawsblaniad mêr esgyrn.

Mae dwy ffordd y gall gwirfoddolwyr gofrestru ar gyfer Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, drwy ofyn am becyn swab drwy Wasanaeth Gwaed Cymru neu drwy ddarparu sampl gwaed ychwanegol wrth roi gwaed.

Dywedodd Dr Keith Wilson, Hematolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, “I lawer o gleifion â chanser y gwaed, trawsblaniad bôn-gelloedd yw eu cyfle gorau i wella’n llawn, fodd bynnag, dim ond 25 y cant o gleifion fydd yn dod o hyd i roddwr o fewn eu teulu. Mae’r mwyafrif llethol yn dibynnu ar wirfoddolwyr sydd ddim yn perthyn i gael unrhyw obaith o wella o’u salwch.

Mae canserau gwaed yn atal mêr esgyrn rhag gweithio’n gywir, ac i’r cleifion hyn, y gobaith gorau o wella yw cael trawsblaniad bôn-gelloedd. Mae trawsblaniad bôn-gelloedd yn disodli celloedd sydd wedi’u difrodi â rhai iach ac yn aml dyma’r opsiwn olaf o ran triniaeth ar gyfer cleifion canser y gwaed yn dilyn radiotherapi a chemotherapi.

Parhaodd Dr Wilson, “Mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom i ymuno â’r Gofrestrfa oherwydd bod mathau newydd o feinwe yn cael eu darganfod o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r rhai sydd angen trawsblaniad yn dibynnu ar roddwr sydd â math o feinwe sy’n cydweddu, felly po fwyaf yw’r gronfa o roddwyr, y gorau yw’r siawns o ddod o hyd i roddwr sy’n cydweddu ar gyfer y cleifion hyn.”

Dywedodd Dr Tracey Rees, Prif Swyddog Gwyddonol Gwasanaeth Gwaed Cymru, “Mae Diwrnod Canser Gwaed y Byd yn gyfle gwych i ganolbwyntio ar ddiolch i’r rhai sydd wedi cofrestru fel rhoddwyr posibl a’r rhai sydd wedi mynd ymlaen i roi eu bôn-gelloedd.

“Mae’r weithred anhunanol hon yn dod â gobaith i gynifer o gleifion a’u hanwyliaid, ond mae llawer i’w wneud o hyd i ni ymestyn y cyfle hwn i bawb sydd angen rhoddwr sydd ddim yn perthyn.

“Er bod miliynau o roddwyr wedi’u cofrestru ledled y byd, ni fydd rhai cleifion yn dod o hyd i’r rhoddwr sy’n cydweddu sydd eu hangen arnynt. Mae mor bwysig bod pobl ifanc yn parhau i ymuno â’r Gofrestrfa.”

Os ydych rhwng 17 a 30 oed, ewch i welshblood.org.uk i ddechrau eich taith yn y frwydr yn erbyn canser y gwaed.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cherry Hill Meithrinfa Ddydd Cherry Hill yn derbyn dyfarniad Lleoliad Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy
Erthygl nesaf Rhybudd i gwsmeriaid credydau treth ynghylch sgamwyr sy’n ffugio eu bod yn gweithio i CThEM Rhybudd i gwsmeriaid credydau treth ynghylch sgamwyr sy’n ffugio eu bod yn gweithio i CThEM

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English