Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Freedom Leisure yn Wrecsam yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd 2022
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Freedom Leisure yn Wrecsam yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd 2022
Pobl a lle

Freedom Leisure yn Wrecsam yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd 2022

Diweddarwyd diwethaf: Medi 21, 2022 10:01 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Freedom Leisure
RHANNU

Bydd Freedom Leisure yn Wrecsam sy’n rhedeg 9 o ganolfannau hamdden gan gynnwys Byd Dŵr, Gwyn Evans, Y Waun a Queensway yn agor ei ddrysau ddydd Mercher 21 Medi i gynnig gweithgareddau am ddim fel y gall pawb rhoi tro arnynt fel rhan o Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2022 – sef diwrnod mwyaf actif o’r flwyddyn y DU.

Mae Freedom Leisure yn Wrecsam yn cynnig tocyn 4 diwrnod AM DDIM i drigolion i fanteisio ar eu cyfleusterau gwych.  Efallai eich bod chi awydd nofio, rhoi cynnig ar ddosbarth ymarfer corff neu’r gampfa, mae rhywbeth i bawb roi cynnig arni.  Yn syml, galwch heibio un o’n canolfannau neu ewch i https://bit.ly/3R15iJz i roi eich tocyn 4 diwrnod AM DDIM ar waith.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yw diwrnod mwyaf actif y flwyddyn yn y DU – yn 2021 cafodd dros 22 miliwn o bobl eu hysbrydoli i fod yn actif ar y diwrnod hwnnw.  Eleni bydd yr ymgyrch yn parhau i annog pobl o bob oed, cefndir a gallu i ddod at ei gilydd i gydnabod pwysigrwydd blaenoriaethu bod yn actif ar gyfer ein lles meddyliol yn ogystal ag iechyd corfforol.

Gan ddefnyddio’r thema ‘Ffitrwydd yn ein Huno’ (Fitness Unites Us), mae trefnwyr ymgyrchoedd ukactive yn annog y rhai sy’n darparu ffitrwydd, chwaraeon a hamdden ledled y DU i ddangos pŵer cynhwysol gweithgaredd corfforol wrth ddod â phobl o bob cefndir at ei gilydd, ym mhob cymuned.

Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal Freedom Leisure yn Wrecsam “Dyma gyfle gwych arall i bawb ddod i ymweld ag unrhyw un o’n canolfannau ar y diwrnod hwn, mae gennym ystod eang o weithgareddau ar gael o nofio, y Gampfa, dosbarthiadau Ymarfer Corff a llawer mwy, os nad ydych wedi ymweld â ni o’r blaen, dyma ddiwrnod i wneud hynny. ”

Dywedodd Huw Edwards , Prif Weithredwr ukactive, sy’n cydlynu’r ymgyrch: “Heddiw, rydym i gyd yn wynebu ein heriau personol ein hunain, ac mae’n hawdd teimlo wedi’n llethu gan ddigwyddiadau gartref a thramor – o argyfwng costau byw a biliau ynni cynyddol, i wrthdaro byd-eang a rhyfel, neu bryderon amgylcheddol.”

“Dyna pam eleni, mae Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn addas iawn i’n hatgoffa i flaenoriaethu ein hiechyd a’n lles, beth bynnag yw’r heriau sy’n ein hwynebu.

“Gall eich campfa, pwll, canolfan hamdden, cyfleuster chwaraeon neu ddarparwr ar-lein eich helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at wella eich iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â chysylltu â phobl eraill yn eich cymuned oherwydd bod gan ffitrwydd allu gwych i ddod â ni at ein gilydd.

“Mae ystod enfawr o opsiynau i bawb roi cynnig arnyn nhw, gyda staff wrth law i’ch ysbrydoli a’ch cefnogi chi, pa bynnag gam ry’ch chi arni.”

Cofiwch i roi eich tocyn 4 diwrnod AM DDIM ar waith cyn y 21ain o Fedi yma https://bit.ly/3R15iJz neu ewch heibio eich canolfan hamdden leol, gymunedol:

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans, Gwersyllt, LL11 4HG
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau y Waun, Y Waun, LL14 5NF
Stadiwm Queensway, Wrecsam, LL13 8UH
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr, Wrecsam, LL13 8DH

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Eryrod a Dreigiau! Hanes Pêl-droed Cymru a Phwylaidd I'w Ddathlu yn Nigwyddiad Amgueddfa Wrecsam Eryrod a Dreigiau! Hanes Pêl-droed Cymru a Phwylaidd I’w Ddathlu yn Nigwyddiad Amgueddfa Wrecsam
Erthygl nesaf Rhybudd am negeseuon e-bost ffug gan “Ofgem” Rhybudd am negeseuon e-bost ffug gan “Ofgem”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle

Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English