Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023
ArallPobl a lle

FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 28, 2022 2:03 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Focus Wales
RHANNU

Fe fydd FOCUS Wales yn croesawu 20,000 o gefnogwyr a bydd dros 250 o actau o Gymru a phob cwr o’r byd yn cyrraedd Wrecsam ar gyfer yr ŵyl rhwng 4 a 6 Mai.

Heddiw, mae FOCUS Wales yn falch o ddatgelu’r 60 act gerddorol cyntaf ar gyfer gŵyl 2023.

Ymysg yr actau cyntaf i’w cyhoeddi mae… unawdydd dwys, doniol, ôl-pync BILLY NOMATES a fydd yn ymddangos olaf ar y llwyfan yn Llwyn Isaf nos Iau 4 Mai, yn fuan ar ôl iddi ymddangos ar deledu cenedlaethol am y tro cyntaf ar raglen Later with… Jools y BBC.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Yna fe fydd THE JOY FORMIDABLE sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth ac sy’n dod o ogledd Cymru, yn ymddangos yn The Rockin’ Chair. Nos Wener 5 Mai, SQUID fydd y brif act yn Llwyn Isaf, ar ôl iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf a aeth i’r 10 uchaf, Bright Green Field (recordiau WARP), a chyfres o berfformiadau mewn gwyliau ar draws y byd yn 2022, yn cynnwys Primavera Sound a Glastonbury.

Daw NEUE GRAFIK ENSEMBLE â sioe ffrwydrol sy’n cynnwys cerddorion gorau’r DU mewn jazz newydd. Bydd arloeswr ym maes cerddoriaeth ddawns yn ymddangos y noson honno hefyd, A GUY CALLED GERALD, sydd fwyaf enwog am ei sengl boblogaidd ‘Voodoo Ray’, a osododd y safon yn y sîn ‘acid house’ ym Manceinion. Gan ddod â’r ŵyl i ben a’r brif act nos Sadwrn 6 Mai 2023 yn Llwyn Isaf, fydd THE CORAL sydd wedi ennill sawl gwobr, ac yna bydd sioe gan DREAM WIFE. Mae eu sengl newydd wedi cael adolygiadau da gan NME a’r Guardian ymysg nifer o rai eraill.

Mae mwy o artistiaid a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys: Acid Klaus | Adwaith | Afro Cluster | Al Lewis | Band Pres Llareggub | Ben Ottewell | Camera | Cerys Hafana | Dafydd Iwan | DEIJUVHS | Delta Radio | Dilletante | Dresden Wolves | Edie Bens | Gallops | George Boomsma | Go Go Machine Orchestra | Grubb & Eedens | Gwenifer Raymond | Hannah Grae | Hannah Scott | Heather Ferrier | HMS Morris | IMMERSE | ISLET | Juice Menace | Katherine Priddy | Kidsmoke | LEMFRECK | Maddie Morris | Mantaraybryn | MINAS | MOJA | Mooi | N’famady Kouyate | NoGood Boyo | Opus Kink | Paddy Hanna | Parisa Fouladi | Prima Queen | Sad Boys Club | Sage Todz | Shelf Lives | Skunkadelic | Sophie Jamieson | Sophie McKeand | SUN | TVAM | VRï | Walt Disco | Will Joseph Cook | Ynys |  I weld y rhestr lawn o’r 60 act, ewch i www.focuswales.com ac mae yna 200 arall a fydd yn cael eu cyhoeddi!

Gyda thua 500 o weithwyr proffesiynol rhyngwladol o’r diwydiant yn mynychu gŵyl 2023, FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru bellach, gyda thri diwrnod llawn o baneli, sgyrsiau gan brif siaradwyr a chyngor yn ymwneud â’r diwydiant. Mae gweithwyr proffesiynol cyntaf y diwydiant i gael eu cyhoeddi yn cynnwys: Lauren Down (Gŵyl End of The Road), Cecilia Soojeong Yi (DMZ Peace Train Festival, De Corea), Claudia Ferigo (Suns Europe, Yr Eidal), David Silbaugh (Summerfest, USA), John Kerridge (Gŵyl Glastonbury), A Guy Called Gerald, a llawer mwy.

Mae FOCUS Wales 2023 yn cael ei gynnal ar 4, 5 a 6 Mai ar draws sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru.  Mae bandiau arddwrn ar gyfer y tri diwrnod llawn, gan gynnwys holl ddigwyddiadau FOCUS Wales, ar gael yma

Cefnogir FOCUS Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y PRS a Llywodraeth Cymru.

FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023
FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023
FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023
FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023
FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023
FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023
FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023
FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023
FOCUS Wales yn cyhoeddi’r 60 artist cyntaf ar gyfer mis Mai 2023
Focus Wales

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol SCAMnesty Cymerwch Ran yn SCAMnesty
Erthygl nesaf My Tree Our Forest Gall pob cartref yng Nghymru gasglu a phlannu coeden wrth i 50 o ganolfannau agor ledled y wlad

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English