Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Prynu nwyddau drwy’r cyfryngau cymdeithasol? Cadw’n saff
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Prynu nwyddau drwy’r cyfryngau cymdeithasol? Cadw’n saff
Y cyngor

Prynu nwyddau drwy’r cyfryngau cymdeithasol? Cadw’n saff

Diweddarwyd diwethaf: 2018/02/05 at 4:15 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Prynu nwyddau drwy’r cyfryngau cymdeithasol? Cadw’n saff
RHANNU

Ydych chi’n prynu nwyddau ar-lein? Ydych chi’n delio â busnesau drwy’r cyfryngau cymdeithasol?

Cynnwys
“Mae’r ddedfryd yn anfon neges glir”Cymrwch ofal wrth brynu ar-lein

Mae Tîm Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn rhybuddio pawb sy’n prynu nwyddau ar-lein i gymryd gofal fel nad ydynt yn cael eu twyllo. Daw’r rhybudd hwn ar ôl i un gwerthwr ar-lein orfod talu cannoedd o bunnau mewn costau a iawndal am fethu masnachu’n deg gyda chwsmeriaid.

Gorchmynnwyd Tiffany Stanley, o Barc Caia, Wrecsam, i dalu dros £1000 o gostau a dirwyon ar ôl masnachu drwy dwyll ar gyfryngau cymdeithasol.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Roedd Miss Stanley wedi bod yn masnachu nwyddau ar-lein ond, dro ar ôl tro, nid oedd yn anfon nwyddau at gwsmeriaid ar ôl iddyn nhw dalu ac yna’n gwrthod eu had-dalu.

Roedd ei hagwedd yn aml iawn yn ymosodol tuag at gwsmeriaid a oedd yn holi lle’r oedd eu nwyddau neu’n gofyn am ad-daliad.

Ar ôl derbyn cwynion bu i’r Tîm Safonau Masnach gysylltu â Miss Stanley a cheisio ffordd ymlaen.

Ond ni ddilynodd y cyngor a ddarparwyd, a bu iddi barhau i fasnachu drwy dwyll.

Ar 9 Ionawr plediodd Miss Stanley yn euog i nifer o droseddau, gan gynnwys twyll, yn Llys Ynadon Wrecsam.

Yn ystod gwrandawiad dedfrydu yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Iau, 1 Chwefror, derbyniodd Miss Stanley orchymyn cymunedol o 12 mis a chafodd ei gorchymyn i gymryd rhan mewn Gweithgarwch Adsefydlu 10 diwrnod.

Bu iddi hefyd dderbyn gorchymyn i dalu iawndal o £337.88 i’r chwe chwsmer a ddarparodd ddatganiadau i’r Tîm Safonau Masnach, ynghyd â £740.88 mewn costau a gordal dioddefwyr o £85.

Dywedodd yr ynadon fod Miss Stanley wedi diystyru’r gyfraith ac y gallai ei throseddau fod wedi arwain at ddedfryd o garchar.

“Mae’r ddedfryd yn anfon neges glir”

Meddai llefarydd ar ran Tîm Safonau Masnach Cyngor Wrecsam: “Mae’r ddedfryd heddiw yn anfon neges glir at unrhyw un sy’n masnachu ar-lein, yn arbennig drwy’r cyfryngau cymdeithasol, bod Safonau Masnach yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i ganfod unigolion sy’n twyllo, er gwaethaf anhysbysrwydd y rhyngrwyd a’i ddefnydd i dwyllo cwsmeriaid. Mae hyn hefyd yn dangos nad yw gweithgarwch anghyfreithiol fel hyn yn cael ei oddef.

“Bu i swyddogion Tîm Safonau Masnach Cyngor Wrecsam gysylltu â Miss Stanley fwy nag unwaith yn dilyn derbyn cwynion gan gwsmeriaid. Bu iddyn nhw hefyd gwrdd â hi a chynnig cyngor, gan ei hannog i fasnachu’n gyfreithlon ac yn barchus.

“Fodd bynnag, ni fanteisiodd ar y cymorth yma a bu iddi barhau i fasnachu drwy dwyll, er iddi ddatgan y byddai’n rhoi’r gorau i fasnachu.

“Mae hwn wedi bod yn achos cymhleth a hir, ac rydym ni’n falch bod yr achos wedi dod i gasgliad llwyddiannus.

“Anfonodd Mis Stanley negeseuon ymosodol a sarhaus at gwsmeriaid, a hynny’n anhaeddiannol. Roedd llawer o’r cwsmeriaid yn ddiamddiffyn ar ôl prynu eitemau ar gyfer perthnasau a oedd wedi marw, ac roedd hyn yn ychwanegu at eu galar. Ni fydd gweithgarwch anghyfreithlon o’r fath yn cael ei oddef yn Wrecsam.

Cymrwch ofal wrth brynu ar-lein

Rydym ni’n cynghori pobl sy’n prynu nwyddau ar-lein i gymryd gofal. Mae’n rhaid i fusnesau ar-lein cyfreithlon ddarparu gwybodaeth ynglŷn â hawliau cwsmeriaid, gan gynnwys gwybodaeth am gyfnodau ailfeddwl. Meddyliwch yn ofalus ynghylch sut rydych chi’n talu ar-lein.

Mae’r rhan fwyaf o fasnachwyr yn darparu cyfleusterau talu diogel ac mae gwasanaethau fel PayPal yn gallu ymyrryd os yw pethau’n mynd o chwith. Gall defnyddio cerdyn credyd i dalu am nwyddau neu wasanaethau dros £100 hefyd ddarparu sicrwydd ychwanegol i chi.

Byddwch yn ofalus wrth wneud trosglwyddiadau uniongyrchol i gyfrifon banc masnachwyr, a sicrhewch eich bod chi’n gwybod pwy yw’r masnachwr ac o le mae’n masnachu.

Os ydych chi wedi talu am nwyddau ond heb eu derbyn, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth yn y lle cyntaf (03454 04 05 06).

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cymryd Eich Busnes i'r Lefel Nesaf Cymryd Eich Busnes i’r Lefel Nesaf
Erthygl nesaf keep safe online Mae’n Diwrnod Diogelwch y Rhyngrwyd! Edrychwch ar ein hawgrymiadau gwych i aros yn ddiogel pan fyddwch ar-lein….

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall Awst 12, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 12, 2025
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English