Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi wedi ystyried Prentisiaeth neu Hyfforddeiaeth gyda CBSW?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ydych chi wedi ystyried Prentisiaeth neu Hyfforddeiaeth gyda CBSW?
Y cyngor

Ydych chi wedi ystyried Prentisiaeth neu Hyfforddeiaeth gyda CBSW?

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 11:15 am
Rhannu
Darllen 3 funud
New city - new career. Work for Wrexham Council
RHANNU

Mae gennym ni 3 chynllun cyffrous iawn i chi ddewis ohonynt p’run a hoffech chi ddysgu crefft o fewn ein Tîm Tai, cyfuno gwaith swyddfa a gwaith ar safleoedd gyda’n Tîm Amgylcheddol neu gael eich lleoli mewn swyddfa o fewn adran o’ch dewis gyda’n Tîm Corfforaethol, rydyn ni’n awyddus i glywed gennych CHI!

Cynnwys
  • Buddion
  • Y Cynllun Prentisiaeth Corfforaethol
  • Cynllun Prentisiaeth Tai
  • Y Cynllun Hyfforddiant Amgylcheddol

Buddion

Bydd pob Prentis/Hyfforddai yn manteisio ar amrywiaeth o fuddion gan gynnwys:

  • Ennill cyflog
  • Treulio amser gyda staff profiadol
  • Gallu astudio tuag at gymhwyster sy’n gysylltiedig â swydd
  • Cael gwyliau â thâl a chael yr un buddion â gweithwyr eraill
  • Gweithio am o leiaf 30 awr yr wythnos
  • Ennill sgiliau o amrywiaeth o leoliadau

Y Cynllun Prentisiaeth Corfforaethol

Bydd y prentis yn cael ei gefnogi gan Goleg Cambria a Thîm Datblygu’r Gweithlu i gwblhau cymhwyster NVQ dysgu-wrth-weithio o’u dewis nhw ynghyd â chyfle i symud ymlaen i’r lefel uwch.

Er mwyn sicrhau bod y prentis yn cael y datblygiad a’r profiad gorau, bydd yr unigolyn yn symud rhwng amrywiaeth o feysydd gwasanaeth dros gyfnod o 2 flynedd.

Bydd y gwasanaeth yn nodi rheolwr a mentor i gefnogi’r lleoliad am y cyfnod cyfan yn eu maes gwasanaeth. Bydd hyn yn darparu cefnogaeth o ran lles a chefnogaeth o ran y swydd ei hun i sicrhau bod y prentis yn gallu gwneud ei waith hyd eithaf ei allu a’i fod yn cael cymaint o brofiad â phosib’ o dan Gynllun Prentisiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Cynllun Prentisiaeth Tai

Mae ein rhaglen bedair blynedd yn uno dysgu ac ennill cyflog. Byddwch nid yn unig yn astudio ar gyfer cymhwyster cenedlaethol, ond hefyd yn ennill cyflog cystadleuol, yn datblygu sgiliau newydd ac yn cael gwybodaeth a phrofiad hynod werthfawr. Gyda chyfleoedd hyfforddi rhagorol, llwybrau gyrfa amrywiol a chyflogaeth ddiogel, bydd y rhaglen hon yn dechrau eich gyrfa ac yn eich galluogi chi i osod y sylfeini ar gyfer eich dyfodol.

Rydym ni’n cynnal cynllun prentisiaeth ar gyfer y crefftau adeiladu yn cynnwys plastro, saernïaeth, paentio, gosod brics, plymio a gwaith trydanol.

Y Cynllun Hyfforddiant Amgylcheddol

Mae cynllun hyfforddiant yn swydd go iawn ac o dan yr holl amgylchiadau, bydd unigolyn dan hyfforddiant yn cael eu cyflogi o’r diwrnod cyntaf.

Byddwn yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr ac yn cefnogi’r gweithwyr dan hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth, a’r bwriad yw eu bod nhw’n cael gwaith parhaol yng Nghyngor Wrecsam yn y pen draw.

Mae’r cynllun dan hyfforddiant yn gynllun 2 flynedd sy’n cyfuno gwaith mewn swyddfa a gwaith ar y safle, gan roi sgiliau a phrofiad wrth fagu hyder.

I gael gwybod mwy, ewch i wefan Cyngor Wrecsam neu ffonio 01978 292070.

Mae’r ffenestr ymgeisio’n cau am hanner nos ar 30 Ebrill 2023.

Rhannu
Erthygl flaenorol Trees outside Wrexham Guildhall Wrecsam yn un o Ddinasoedd Coed y Byd yn 2022!
Erthygl nesaf Tax Credits CThEF yn paratoi i anfon 1.5 miliwn o becynnau adnewyddu credydau treth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English